Ewch i’r prif gynnwys

Ôl-raddedig a Addysgir

Mae’r cwrs hwn sy’n seiliedig ar ddiwydiant yn addas ar gyfer graddedigion o gefndiroedd amrywiol sy’n awyddus i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad ymarferol angenrheidiol i fod yn beiriannydd meddalwedd masnachol.

Ar ôl graddio, byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i ddilyn gyrfa ym maes peirianneg meddalwedd neu i gael swydd yn y diwydiant technoleg ehangach. Dylech fod â rhywfaint o brofiad blaenorol o raglennu cyn gwneud cais am y rhaglen ôl-raddedig.

CwrsModd
Peirianneg MeddalweddAmser llawn
Peirianneg Meddalwedd gyda Blwyddyn Lleoliad ProffesiynolAmser llawn

Prosiectau Grŵp

Bydd myfyrwyr ôl-raddedig yn cael eu rhoi mewn tîm yn ystod tymor y Gwanwyn a bydd gofyn i chi flaenoriaethu eich dewis ar gyfer y prosiect mawr. Byddwch yn cynnal eich prosiect mawr fel rhan o’ch traethawd hir yn ystod tymor yr haf.

Cyllid

Mae rhywfaint o opsiynau cyllid ar gael ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig gan gynnwys y rheiny a gynigir gennym ni a chyrff allanol.

Amser cysylltu

Fel arfer, caiff myfyrwyr ôl-raddedig eu haddysgu dros ddau ddiwrnod rhwng 09:30 a 16:30 gydag awr i ginio. Mae’r sesiynau a addysgir yn gymysgedd o ddarlithoedd, sesiynau labordy, hunan-astudio a gwaith grŵp a phrosiect, a bydd yn cynnwys egwylion.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr MSc mewn Peirianneg Meddalwedd neu am yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Cyrsiau ôl-raddedig a addysgir