Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae’r Academi Meddalwedd Genedlaethol yn fenter gyffrous gan Brifysgol Caerdydd, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chwmnïau blaenllaw yn y diwydiant.

Mae'r Academi Meddalwedd Genedlaethol yn cynnig rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig arloesol. Mae’r ddau gwrs yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad ymarferol sy’n angenrheidiol er mwyn bod yn effeithiol fel peiriannydd meddalwedd masnachol.

Ein nod

I fynd i’r afael â’r prinder peirianwyr meddalwedd cymwys sydd gennym ar lefel genedlaethol, ein nod yw cynhyrchu graddedigion gyda phrofiad diwydiannol fydd yn ddeniadol i gyflogwyr. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn gweithio’n agos gyda busnesau lleol a chwmnïau blaenllaw yn y diwydiant i ddarparu dysgu ac addysgu seiliedig ar brosiectau mewn amgylchedd masnachol/TG pwrpasol.

Mae prif nodweddion ein rhaglenni gradd yn cynnwys ymgysylltu’n helaeth â diwydiant drwy brosiectau sy’n canolbwyntio ar gleientiaid, yn ogystal â chanolbwyntio ar waith tîm ac arferion gwaith yn y diwydiant.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am yr Academi Meddalwedd Genedlaethol.

Matthew Turner

Matthew Turner

Project Manager (Software Academy)

Email
turnerm1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0321