Prosiectau
Rydyn ni’n rhoi theori ar waith drwy ddysgu ein myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar beiriannydd meddalwedd i ddylunio, datblygu a darparu meddalwedd o ansawdd uchel.
Mae ein rhaglenni gradd yn cynnwys ymgysylltu’n helaeth â diwydiant drwy brosiectau sy’n canolbwyntio ar y cleient. Drwy ddefnyddio dysgu seiliedig ar brosiect ac ymarferion cydweithredol, byddwch yn datblygu eich gwaith tîm, eich arweinyddiaeth, eich sgiliau cyfathrebu a datrys problemau, ac yn dysgu sut mae defnyddio eich amser yn effeithiol er mwyn darparu gwerth.
Mae ein haddysgu wedi ennill gwobrau ac wedi cael ei gydnabod gan Brifysgol Caerdydd am ei ddull arloesol a chydweithredol, am ei ymrwymiad tymor hir i newid sut mae Peirianneg Meddalwedd yn cael ei addysgu gan ein rhwydweithiau yn y diwydiant a gan ein myfyrwyr.
Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth am brofiadau ein myfyrwyr ac am y prosiectau maen nhw wedi gweithio arnynt drwy eu straeon.
Mae’n wych gallu gweithio ar brosiectau go iawn a allai gael eu defnyddio ym myd diwydiant ar ôl i ni eu gorffen. Mae cael y profiad o weithio gyda byd diwydiant yn bendant yn mynd i dalu ar ei ganfed ar ôl i mi raddio.
Crwydrwch o gwmpas yr Academi Feddalwedd Genedlaethol gyda’n taith banoramig o gwmpas yr adeilad, gan ddefnyddio’r allweddi saeth i lywio.