Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Gwyliwch ein fideo i ddysgu mwy am ein rhaglen israddedig

Datblygwch eich gwybodaeth a’ch arbenigedd mewn dylunio, datblygu a darparu meddalwedd a rhoi theori ar waith mewn prosiectau yn y byd go iawn.

Bydd ein rhaglen radd i israddedigion yn dangos i chi sut mae cynhyrchu systemau meddalwedd diogel o ansawdd uchel y mae modd eu defnyddio a’u haddasu gan ddefnyddio offer a thechnegau masnachol cyfredol. Byddwch yn cael cyfle i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi, dylunio, rhaglennu, profi a gwerthuso yng nghyswllt prosiectau yn y byd go iawn gyda chleientiaid.

Bydd hyn yn cryfhau eich sgiliau proffesiynol ac yn sicrhau eich bod yn barod i ddechrau gweithio fel peiriannydd meddalwedd, yn ogystal â gwella eich cyflogadwyedd drwy fod mewn cyswllt cyson â gweithwyr proffesiynol.

Enw’r radd Côd UCAS
Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol (BSc) 4JVD

Prosiectau grŵp

Yn ystod dwy flynedd a hanner gyntaf y rhaglen israddedig, bydd prosiect ar gyfer eich blwyddyn yn cael ei ddyrannu i chi gan y tîm academaidd. Ar gyfer y Prosiect Mawr ar gyfer Tîm yn y flwyddyn olaf, gofynnir i chi roi prosiectau yn nhrefn blaenoriaeth a bydd un yn cael ei ddyrannu i chi. Bydd cyfle i fyfyrwyr gynnig prosiectau addas ar gyfer y Prosiect Mawr ar gyfer Tîm hefyd.

Er bod ein holl brosiectau yn seiliedig ar dimau, caiff cyfraniad unigolion i’r prosiectau ei asesu ar wahân.

Lleoliadau

Rydyn ni’n annog yr holl fyfyrwyr israddedig i fynd ar leoliad dros yr haf a byddwn yn gweithio’n agos gyda’n cysylltiadau yn y diwydiant er mwyn helpu i drefnu’r rhain.

Roedd y BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol bron fel cyfuniad o brentisiaeth a gradd mewn un. Rydych chi’n cael profiad o weithio gyda chleientiaid go iawn ond yn cael gradd hefyd, felly gallaf ddangos i gyflogwyr bod gen i radd, a bod gen i brofiad i ategu hynny.

Joel Valentine BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol neu’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

School of Computer Science and Informatics (UG enquiries)