Ewch i’r prif gynnwys

Mynediad Agored

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ymchwil Mynediad Agored. 

Mae cyhoeddiadau Mynediad Agored yn allbynnau ymchwil sydd ar gael yn agored, sy’n agored i ddarllen a defnyddio o amrywiaeth o wahanol ffynonellau ar-lein.

Dewch i ddarganfod cyhoeddiadau Mynediad Agored

Archwiliwch ein storfa sefydliadol, ORCA – cartref i filoedd o erthyglau cyfnodolion Mynediad Agored, penodau llyfrau a phapurau cynhadledd a gynhyrchir gan ein staff a myfyrwyr, yn ogystal â’n casgliad traethodau PhD.

Yn ogystal â chyhoeddiadau wedi’u hawduro gan ein staff a myfyrwyr, mae yna nifer o adnoddau ar-lein a fydd yn eich cyfeirio at gyhoeddiadau Mynediad Agored.

Os ydych eisoes wedi nodi erthygl neu lyfr ni allwch gael mynediad hawdd ato, gall fod dewisiadau eraill Mynediad Agored fod ar gael ar-lein.

Chwiliwch am symbol ‘open lock’ Mynediad Agored, a defnyddiwch chwiliad manwl lle bo’n bosibl er mwyn sicrhau eich bod yn chwilio am destun llawn, gwaith ymchwil Mynediad Agored yn unig.

Mynediad Agored i'n hymchwilwyr

Rydym yn ymchwilwyr drwy wneud y canlynol:

  • cynnig hyfforddiant ac eiriolaeth Mynediad Agored
  • rhoi cyngor ar ofynion cyllidwr a Mynediad Agored REF
  • cysylltu ag ymchwilwyr a chyhoeddwyr ynghylch talu ffioedd Mynediad Agored Aur o gronfeydd canolog
  • annog pobl i gyflwyno deunyddiau ymchwil i’r gadwrfa sefydliadol, ORCA
  • cadarnhau cydymffurfiaeth o ran Mynediad Agored a rhoi adborth ar hynny i gyllidwyr (UKRI/Wellcome/COAF)
  • hwyluso Mynediad Agored drwy Gronfa Sefydliadol y Brifysgol ar gyfer awduron sy'n bodloni meini prawf y gronfa, pan nad yw cyllid Mynediad Agored ar gael gan unrhyw ariannwr ymchwil
  • hyrwyddo'r Wasg Prifysgol Caerdydd fel menter cyfnodolyn Mynediad Agored Diemwnt a datblygu'r rhaglen gyhoeddi monograff Mynediad Agored Aur y Wasg a lansiwyd yn 2019.
  • gweithio ar y cyd gyda sefydliadau eraill i ddatblygu'r agenda Mynediad Agored yn y DU (megis aliniad gyda Chynllun-S, a gweithio gyda chyhoeddwyr ar gytundebau tanysgrifio trawsnewidiol i gyfryngu ar gostau tra'n symud ymlaen tuag at fwy o gyhoeddi Mynediad Agored).

Rydym yn darparu cefnogaeth i ymchwilwyr ar lwybrau Gwyrdd, Aur a Diemwnt i Fynediad Agored a'r agenda Mynediad Agored ehangach yn Addysg Uwch y DU. Rydym hefyd yn rhan o amrywiaeth o brosiectau gyda sefydliadau mewnol ac allanol.

Am ragor o wybodaeth ar y gwasanaethau a chefnogaeth rydym yn gynnig i ymchwilwyr, cysylltwch â'r tîm:

Tîm Mynediad agored

Helen Sharp

Ein prosiectau: