Ewch i’r prif gynnwys

Y gallu i ailgynhyrchu gwaith ymchwil

Rydym yn aelodau o Rwydwaith Ailgynhyrchu'r DU (UKRN), rhwydwaith annibynnol o randdeiliaid yn y DU sy’n ymroi i wella ansawdd allbwn ymchwil academaidd a’r gallu i’w ailgynhyrchu.

Mae hyn yn cynrychioli rhan bwysig o'n hymrwymiad i ddatblygu diwylliant Ymchwil Agored sy'n cwmpasu ystod o weithrediadau er mwyn gwella ansawdd, gonestrwydd a hygyrchedd ein hymchwil.

Rhwydwaith Ailgynhyrchu'r DU

Tra bod y DU yn arwain gwaith ymchwil yn fyd-eang, er mwyn cadw ein safle a sicrhau bod ein hymchwil yn drylwyr, yn gadarn ac o ansawdd uchel mae angen i ni ysgogi gwelliant parhaus. Mae Rhwydwaith Ailgynhyrchu'r DU, a arweinir gan yr Athro Marcus Munafò a chydweithwyr o brifysgolion y DU, yn gweithio gydag ymchwilwyr, prifysgolion ac amrywiaeth o randdeiliaid i hyrwyddo'r mentrau er mwyn gwella ansawdd yr ymchwil.

Mae pob partner sefydliadol yn yr UKRN wedi nodi uwch arweinydd academaidd i ymgysylltu â'r UKRN, rhannu gwaith dysgu a meithrin ei agenda. Yr Athro Gillian Bristow, Deon Ymchwil ar gyfer Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yw ein arweinydd ein rhwydwaith ac mae'n cadeirio Grŵp Gweithredol Ymchwil Agored y Brifysgol.

"Mae'r ymchwil agored yn rhan hanfodol o'n strategaeth a'n gweledigaeth ymchwil, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn arwain yn y maes hwn. Gan weithio gyda'n staff a'n myfyrwyr, rydym yn datblygu dulliau gweithredu arloesol er mwyn cefnogi ymchwil agored ac rydym wrth ein bodd yn cael y cyfle i ymuno ag UKRN a gweithio'n agosach gyda nhw er mwyn gwella diwylliant ac amgylchedd ein hymchwil ymhellach."
Yr Athro Kim Graham Rhag Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter

Ein hymrwymiad

Bydd ein mentrau UKRN yn cynnwys y canlynol

  • datblygu hyfforddiant cyffredin ar draws camau gyrfa
  • alinio meini prawf o ran dyrchafu a phenodi er mwyn ategu arferion ymchwil sy'n agored y gellir eu hatgynhyrchu
  • rhannu arferion gorau.

Bydd ein harweinydd academaidd UKRN yn cydymffurfio â rhwydweithiau o ymchwilwyr ar lawr gwlad a rhanddeiliaid UKRN, gan gynnwys cyllidwyr a chyhoeddwyr.