Ewch i’r prif gynnwys

Asesiad ymchwil cyfrifol

Rydyn ni wedi ymrwymo i asesu ansawdd ein hymchwil yn deg a thryloyw.

Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA)

A ninnau wedi llofnodi Datganiad San Francisco ynghylch Asesu Ymchwil (DORA), byddwn yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r defnydd cyfrifol o ddangosyddion metrig a meintiol ymchwil.

Mae’r datganiad yn cydnabod yr angen i wella’r ffyrdd y mae ymchwil yn cael ei gwerthuso. Mae wedi dod yn fenter fyd-eang ers ei datblygiad yn 2012, sy’n cynnwys pob disgyblaeth ysgolheigaidd a’r holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys arianwyr, cyhoeddwyr, cymdeithasau proffesiynol, sefydliadau academaidd ac ymchwilwyr.

Mae DORA yn ein hymrwymo i asesu rhagoriaeth ymchwil drwy broses o adolygu ansoddol yn hytrach na defnyddio mesurau dirprwyol, fel cyhoeddi mewn cyfnodolion â ffactor effaith uchel.

Drwy lofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil, mae Prifysgol Caerdydd yn cadarnhau ei hymrwymiad i wneud yn siŵr bod allbynnau ymchwil yn cael eu hasesu ar sail eu teilyngdod, gan osgoi metrigau ymchwil. Mae hefyd yn cadarnhau ein hymrwymiad i gydnabod yr ystod amrywiol o allbynnau ymchwil sy’n cael eu cynhyrchu gan ein cymuned ymchwil wrth wneud penderfyniadau ynghylch cyllido, recriwtio a dyrchafu. Mae ein hymrwymiad i’r Datganiad yn adlewyrchu’r pwysigrwydd yr ydym yn ei roi ar ymchwil gynhwysol a gwyddoniaeth tîm, yn unol â’n dymuniad i gefnogi a gwella’r cyfleoedd gyrfaol i’n holl staff, ar bob cam yn eu gyrfaoedd.

Yr Athro Kim Graham Rhag Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter

Ein hymrwymiadau

Fel prifysgol

  • Ni fyddwn yn defnyddio dulliau mesur sy’n seiliedig ar gyfnodolion (e.e. ffactorau effaith cyfnodolion) fel mesurau dirprwyol o ansawdd erthyglau ymchwil unigol wrth asesu cyfraniadau ymchwilydd unigol, gan gynnwys o ran penderfyniadau recriwtio, hyrwyddo neu gyllido.
  • Byddwn yn eglur am y meini prawf a ddefnyddiwn i wneud penderfyniadau am recriwtio, deiliadaeth a dyrchafu, ac yn amlygu bod cyd-destun gwyddonol papur yn bwysicach na metrigau cyhoeddi neu enw da’r cyfnodolyn.
  • Byddwn yn ystyried gwerth ac effaith yr holl ddeilliannau ymchwil (gan gynnwys setiau data a meddalwedd) a byddwn yn rhoi sylw i ystod eang o fesurau effaith, gan gynnwys dangosyddion ansoddol effaith ymchwil, megis dylanwad ar bolisi ac ymarfer.

Fel ymchwilwyr unigol a phenderfynwyr

  • Byddwn yn gwneud asesiadau yn seiliedig ar gynnwys ysgolheigaidd yn hytrach nag ar fetrigau cyhoeddi wrth wneud penderfyniadau (e.e. cyllid mewnol, recriwtio, deiliadaeth, neu ddyrchafu).
  • Lle bo’n briodol, byddwn yn dyfynnu llenyddiaeth sylfaenol pan fydd arsylwadau a chanfyddiadau ymchwil yn cael eu hadrodd yn gyntaf yn hytrach nag adolygiadau, gan roi cydnabyddiaeth felly pan fydd yn ddyledus.
  • Ar gyfer erthyglau, byddwn yn defnyddio ystod amrywiol o fetrigau a dangosyddion ar gyfer datganiadau personol ac ategol fel tystiolaeth o effaith erthyglau unigol a gyhoeddwyd ac allbynnau ymchwil eraill.
  • Byddwn yn herio arferion asesu ymchwil sy’n dibynnu ar ffactorau effaith cyfnodolion ac yn hyrwyddo’r arferion gorau sy’n canolbwyntio ar werth a dylanwad amrywiaeth o allbynnau ymchwil.

Cynnydd allweddol

Ers i Brifysgol Caerdydd arwyddo DORA ym mis Tachwedd 2019, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at weithredu ei argymhellion. Er mwyn sicrhau nad ydyn ni’n ystyried metrigau sy’n seiliedig ar gyfnodolion wrth asesu cyfraniadau ymchwilydd unigol, rydyn ni wedi adolygu a diwygio prosesau a dogfennaeth bresennol a oedd yn dibynnu (naill ai’n ddiamwys neu’n anuniongyrchol) ar ffactorau effaith cyfnodolion. Rydyn ni wedi:

  • diweddaru canllawiau prawf ar gyfer staff academaidd, gan nodi DORA yn benodol
  • creu cyfres o gwestiynau cyfweliad a argymhellir er mwyn asesu ymchwil gyfrifol
  • diwygio disgrifiadau swydd generig ar gyfer staff addysgu ac ymchwil i roi’r pwyslais ar gynnwys yr ymchwil yn hytrach na’r man cyhoeddi
  • ymgorffori asesu ymchwil gyfrifol yn rhan o hyfforddiant paneli recriwtio a dyrchafiadau.

Mae cydweithwyr ar Bwyllgor Dyrchafiadau Academaidd y Brifysgol wedi trafod eu gwaith ymgysylltu â DORA, gan nodi ei effaith gadarnhaol o ran arferion asesu dyrchafiadau:

Mae’r Brifysgol wedi ei gwneud yn glir iawn bod ein hymrwymiad i DORA yn golygu y byddwn ni’n gwerthuso ymgeiswyr ar sail ansawdd eu hymchwil, nid metrigau cyhoeddi na chwaith hunaniaeth y cyfnodolyn y cyhoeddir yr ymchwil ynddo. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ansawdd yr asesiadau allanol ac mae wedi galluogi’r Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd i ddod i benderfyniadau teg yn seiliedig ar ragoriaeth.

Yr Athro Karen Holford Professor

Rydyn ni hefyd wedi creu Datganiad Polisi gan Brifysgol Caerdydd ar Asesu Ymchwil Gyfrifol i hysbysu staff ymchwil a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch y defnydd cyfrifol o fetrigau ymchwil sy’n cyfarwyddo’r dasg o werthuso ac asesu ymchwil y bydd y Brifysgol yn ei chynnal.

Mae’r Brifysgol wedi sefydlu Gweithgor DORA sy’n cynnwys staff Academaidd a staff Gwasanaethau Proffesiynol ar draws ystod o gamau gyrfaol. Deon Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil, yr Athro Karin Wahl-Jorgensen, sy’n cadeirio’r Gweithgor.

Rhagor o wybodaeth

I wneud ymholiadau neu i gael rhagor o wybodaeth am DORA, cysylltwch â:

Dr Karen Desborough

Swyddog Asesu Ymchwil Gyfrifol