Ewch i’r prif gynnwys
Decision making in regenerative design

Integreiddio prosesau sero net a dylunio adfywiol ynghyd â thechnolegau digidol mewn dylunio a chynllunio seiliedig ar berfformiad.

Mae EU COST Action RESTORE yn rhwydwaith a ariennir o ymchwilwyr a chynrychiolwyr ar draws Ewrop, o fwy na 40 o wledydd. Mae’n canolbwyntio ar wthio’r amgylchedd adeiledig y tu hwnt i sero net, tuag at ei adfywio a’i adfer, a gweithio oddi mewn i gapasiti cynaliadwy ei ecosystemau i atal effeithiau niweidiol yn y dyfodol, yn hytrach na’u lliniaru.

Amcanion

  • Ymchwilio i strategaethau ac arfer gorau sy’n cyfoethogi lleoedd, pobl, ecoleg, diwylliant a hinsawdd, a’u rhoi ar waith fel eu bod yn greiddiol i’r dasg ddylunio;
  • Hybu meddwl blaengar a gwybodaeth amlddisgyblaeth sy’n cyfrannu at gyfoethogi dylunio oddi mewn i ddull gweithredu defnydd-ganolog gyda golwg ar gysur, iechyd a llesiant mewn cytgord ag ecosystemau trefol a naturiol, gan ailgysylltu pobl a’r amgylchedd adeiledig â byd natur.
  • Mae ymwneud Dr. Bleil de Souza â’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar integreiddio prosesau dylunio adfywiol â thechnolegau digidol ym maes dylunio a chynllunio seiliedig ar berfformiad, yn fwy penodol o ran:
  • Mapio, cofnodi a throsglwyddo gwybodaeth o wneud penderfyniadau dylunio mewn disgyblaethau lluosog er mwyn deall sut maen nhw’n defnyddio gwahanol fathau o offer digidol i gynhyrchu tystiolaeth ar gyfer cadarnhau dadleuon dylunio ac asesu cynigion dylunio;
  • Arbrofi gyda gwahanol ddulliau dylunio, gan chwilio am dryloywder mewn penderfyniadau dylunio trwy archwilio rôl manylebau dylunio a chynhyrchu tystiolaeth er mwyn gallu craffu ar gynigion dylunio a sicrhau atebolrwydd mewn perthynas â chyflawni nodau cynaliadwyedd a brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd ar wahanol raddfeydd dylunio (rhanbarthol, cymdogaeth ac adeiladu).
  • Mae’r amcanion hyn yn bwydo i weithgareddau a gynlluniwyd sy’n ymwneud â datblygu canllawiau i ymarferwyr ar gyfer defnyddio gwahanol ddulliau dylunio, tystiolaeth ac offer digidol ar gyfer gwneud penderfyniadau dylunio.

Cyhoeddiadau

Cyllid

EU COST Action RESTORE - Ailfeddwl am Gynaliadwyedd gyda golwg ar Economi Adfywiol

Cyswllt

Bleil De Souza, Clarice