Datblygu teclyn arolwg ôl-ffitio cyfnod cynnar ymarferol i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer cartrefi presennol
Bydd gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn cyfrannu at ddyheadau Llywodraeth Cymru i roi dyfodol gwell i Gymru. Mae’n ymateb i dargedau sero net ac yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd (Llywodraeth Cymru, 2020). Mae hefyd yn cefnogi 'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol' (2015), yn ogystal â chynorthwyo dyheadau byd-eang i gyflawni targedau sero net erbyn 2050 a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (Cenhedloedd Unedig, 2015).
Mae teclyn arolwg ôl-ffitio cyfnod cynnar ymarferol - PRESS 1 - wedi'i ddatblygu ar gyfer y sector domestig yn dilyn adolygiad o'r offer arolwg presennol. Mae'r teclyn wedi'i ddatblygu ac wedi hynny ei brofi a'i wella'n ymarferol. Roedd datblygu'r teclyn yn cynnwys ymgysylltu â'r sector tai cymdeithasol i werthuso pa mor hawdd yw defnyddio'r teclyn, perthnasedd y data a gasglwyd, y broses o gasglu data ac alinio â dulliau eraill o gasglu data.
Mae'r arolwg ôl-ffitio cyfnod cynnar ymarferol a ddatblygwyd - PRESS1 - yn golygu bod modd casglu gwybodaeth berthnasol y gellir ei defnyddio i helpu i bennu mesurau ôl-ffitio priodol a'u heffeithiolrwydd yn yr ymgyrch tuag at ddyfodol di-garbon, gwella effeithlonrwydd ynni a lleihau biliau tanwydd. Mae wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr i gyflymu'r broses casglu data yn ogystal â galluogi data cywir i gael ei gasglu.
Cysylltu
Rydym yn ymchwilio i’r amgylchedd adeiledig carbon isel, pensaernïaeth a’i chyd-destun hanesyddol a diwylliannol, ymchwil dylunio a mwy.