Ewch i’r prif gynnwys

Pecyn cymorth Ansawdd Aer Dan Do ar gyfer Ysgolion Cynradd

Air quality in primary schools
Air quality in primary schools

Mae’r prosiect Cyfrif Cyflymydd Effaith (IAA), Y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) hwn, yn brosiect rhyngddisgyblaethol o ran effaith, a fydd yn cefnogi ysgolion i gynnal ystafelloedd dosbarth a mannau dan do, iach, sydd wedi'u hawyru'n dda.

Mae tîm y prosiect yn cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful ac yn gweithio'n agos gydag athrawon a phlant mewn dwy ysgol gynradd ym Merthyr Tudful.  Mae'r prosiect yn defnyddio pecyn cymorth monitro gweledol i fesur ansawdd aer dan do mewn adeiladau ysgolion ac i roi adborth i’r rhai sy’n defnyddio’r adeiladau hynny. Bydd yn cynnig canllawiau ategol i hyrwyddo mannau dan do iach drwy gyfrwng ymyriadau sy'n seiliedig ar ymddygiad ac arferion gweithredol mewn adeiladau ysgolion.

Un o nodau allweddol eilaidd y prosiect yw archwilio sut y gall data monitro rymuso plant ac athrawon i gymryd camau i reoli'r amodau amgylcheddol dan do a meithrin amgylchedd dan do da, gan ganolbwyntio ar gyfforddusrwydd thermol a CO2 fel procsi o ansawdd aer. Mae'r prosiect yn cyd-ddatblygu adnoddau dysgu sy’n briodol o ran oedran, gydag athrawon a disgyblion, er mwyn cefnogi dysgu plant ynghylch sut mae adeiladau yn defnyddio ynni, a chynaliadwyedd, fel adnoddau ar gyfer gweithdai STEM ymarferol i ymarfer sgiliau rhifedd.

Er bod y prosiect yn mynd i'r afael â'r amgylchedd dan do (cyrffoddusrwydd thermol ac ansawdd aer) yng nghyd-destun COVID-19, mae'n dadansoddi, yn effeithiol felly, ymddygiad, perfformiad a rheolaeth adeilad, defnydd o ynni; ac yn fwy cyffredinol, cynaliadwyedd mewn adeiladau.

Partner

Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful

Cyllid

Cyfrif Cyflymydd Effaith y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC)

Cysylltu

Dr Gabriela Zapata-Lancaster

Dr Gabriela Zapata-Lancaster

Lecturer

Email
zapatag@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0643
Dr Tom Smith

Dr Tom Smith

Senior Lecturer in Human Geography

Email
smitht19@caerdydd.ac.uk
Telephone
 +44 (0)29 2087 5778