Cynllun cydraddoldeb strategol
Nod ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw hyrwyddo cydraddoldeb a chyflawni gwelliannau yn y maes ar draws y Brifysgol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Mae'r cynllun yn cynnwys pum amcan cydraddoldeb sy’n cwmpasu’r nodweddion gwarchodedig canlynol: oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredo, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Mae'r Gymraeg wedi'i chynnwys hefyd.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 wedi’i seilio ar egwyddorion sylfaenol a fydd yn ein helpu i gyflawni ein dyheadau.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth neu adborth, cysylltwch â:
Rebecca Newsome
Pennaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant