Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb hiliol

Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliaeth.

Rydyn ni’n ddarparwr addysg ac yn gyflogwr blaenllaw yng Nghaerdydd. Felly, mae gennyn ni gyfrifoldeb – cyfreithiol, moesegol, deallusol ac emosiynol – i fod yn gynhwysol ac annog amrywiaeth o ran ffyrdd o feddwl a chamau gweithredu.

Er ein bod wedi gwneud cynnydd o ran meithrin ethos gwrth-hiliaeth, rydyn ni’n cydnabod bod gwaith i’w wneud o hyd. I fynd i’r afael â’r dasg hon, byddwn ni’n agored ac yn ymrwymo i ddysgu. Mae pob aelod o’n cymuned yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod profiadau’r holl staff a myfyrwyr yn cyd-fynd â’n dyheadau ar y cyd.

Rydyn ni wedi cymryd sawl cam pwysig i wella ein dealltwriaeth ac ehangu mynediad ar gyfer cymunedau nad ydyn nhw wedi’u cynrychioli’n ddigonol. Ymhlith y camau hynny mae:

Rydyn ni wedi ymrwymo i drafod hiliaeth, yn ogystal â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn cyd-destun ehangach, mewn ffordd agored, dryloyw ac adeiladol. Rydyn ni hefyd yn cydnabod pwysigrwydd croestoriadedd yn y trafodaethau hyn, a byddwn ni’n ceisio mynd i’r afael â’r materion hollbwysig hyn.

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd i nodi ein cynnydd. Dylai'r rhai sydd â diddordeb mewn cael gwybod rhagor am ein gwaith yn y maes hwn gysylltu â ni:

Canolbwynt Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant