Dylunio Gwasanaethau cwrs agored
Bydd y cwrs un diwrnod hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o gysyniadau craidd Dylunio Gwasanaethau.
Byddwch yn dysgu am adnoddau sy’n eich helpu i ddeall eich cwsmeriaid yn well fel y gallwch ailgyfeirio a theilwra eich gwasanaethau i’r hyn y mae eich cwsmeriaid ei angen a’i eisiau.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
- Unrhyw un sy'n ymwneud â chynnig gwasanaethau i gwsmeriaid
- Rheolwyr ac Ymarferwyr Newid sydd am arwain gweithwyr drwy broses o wella gwasanaethau
- Arbenigwyr gwella sydd am ddeall sut i gynnwys egwyddorion dylunio gwasanaethau yn eu dull gweithredu gwelliant.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Egwyddorion Dylunio Gwasanaethau
- Cyfraniadau arbenigol allweddol yn y maes
- Astudiaethau achos o ddylunio gwasanaethau'n llwyddiannus
- Adnoddau sy'n eich helpu i ymarfer dylunio gwasanaethau.
Pynciau dan sylw
- Beth yw Dylunio Gwasanaethau?
- Sut y mae'n cyd-fynd â methodolegau gwella eraill a wyddom amdanynt?
- Pum Egwyddor Dylunio Gwasanaethau
- 'Canolbwyntio ar y Defnyddiwr' neu Ganolbwyntio ar y Cwsmer – Deall sut y mae cwsmeriaid yn meddwl
- Datblygu Personau
- Safaris Cwsmeriaid
- Glasbrintio Gwasanaethau
- Curiadau Calon Cwsmeriaid
- Y fframwaith Diemwnt Dwbl
- Egwyddorion Gwasanaethau Da Lou Downe.
Manteision
- Rhoi'r gallu i chi archwilio’r gwasanaeth presennol a gynigir gennych a deall ble a sut i wella profiad y gwasanaeth
- Mwy o werthfawrogiad o bwysigrwydd canolbwyntio ar gwsmeriaid
- Cynnig ystod o gysyniadau newydd i chi eu hychwanegu at eich pecyn cymorth gwelliant.
Gwybodaeth ddefnyddiol am y cwrs hwn
- Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.
- Bydd y cwrs yn cael ei addysgu wyneb yn wyneb, cyn belled â bod canllawiau COVID-19 yn caniatáu hynny.
Cyflwynir y gweithdy gan Sarah Lethbridge o Ysgol Busnes Caerdydd
https://blogs.cardiff.ac.uk/sarahlethbridgelean/
Sarah yw Rhag Ddeon Ymgysylltu Allanol Yn Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau darbodus mewn ysbytai, prifysgolion a gwasanaethau cyhoeddus a phreifat ac mae wedi dysgu darbodusrwydd a gwelliant i lawer o wahanol sefydliadau ac ymgynghoriaethau. Mae ei gwaith gwelliant yn arbenigo mewn helpu i ddatblygu gwybodaeth a hunangynhaliaeth timau Gwelliant Parhaus.
Lleoliad
I'w gadarnhau – bydd y cwrs hwn naill ai'n cael ei gynnal yn yr ystafell Addysg Weithredol neu yn yr adeilad sbarc|spark newydd ar Heol Maendy.