Gwregys Melyn a Gwyrdd Lean Six Sigma (ar-lein)
Mae'r rhaglen 'ar-lein byw' Gwregys Melyn a Gwyrdd Lean Six Sigma yn rhaglen hyfforddi ymarferol iawn (cyfanswm o 5 diwrnod) a fydd yn eich galluogi i ddechrau defnyddio adnoddau a thechnegau ar unwaith i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd prosesau busnes, waeth beth yw maint neu fath y diwydiant.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar-lein dros Zoom.
Mae cynnwys yr hyfforddiant yn archwilio'r ymchwil ddiweddaraf ym maes Rhagoriaeth Weithredol a bydd yn rhannu sut mae'r egwyddorion a'r technegau hyn yn cael eu cymhwyso o fewn gwasanaethau gweithgynhyrchu, preifat a chyhoeddus a sefydliadau'r trydydd sector. Bydd cynrychiolwyr hefyd yn cael cyfle i ddysgu sut mae technolegau Industry 4.0 yn cydweddu'n dda â dull gweithredu Lean Six Sigma. Yn ogystal, byddwn yn rhannu enghreifftiau o sut mae egwyddorion a thechnegau lean six sigma i greu prosesau a datblygiadau arloesol er mwyn helpu sefydliadau rhagweithiol i addasu i bandemig COVID 19.
Bydd y 2 ddiwrnod cyntaf o hyfforddiant 'byw ar-lein', yn amodol ar lwyddo mewn arholiad ar-lein ar ddiwedd diwrnod 2, yn eich galluogi i gael tystysgrif Gwregys Melyn Lean Six Sigma gan Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd. Mae'r ail floc yn cynnwys tridiau arall o hyfforddiant Gwregys Gwyrdd 'byw ar-lein' gan ddefnyddio meddalwedd Minitab (byddwn yn darparu fersiwn o'r feddalwedd hon i chi dreialu am ddim am 30 diwrnod).
Os mai dim ond hyd at Wregys Melyn yr hoffech ei astudio, gallwch gofrestru ar gyfer y rhaglen honno.
Os oes gennych wregys melyn eisoes (naill ai gydag Ysgol Busnes Caerdydd neu gan ddarparwr arall) byddwch yn manteisio'n fawr o ddwysau eich gwybodaeth trwy gwblhau'r rhaglen Gwregys Gwyrdd Lean Six Sigma tri diwrnod, y gallwch ei hastudio ar wahân.
Maneesh Kumar fydd eich hyfforddwr.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
Pobl sydd ar lefelau isaf y sefydliad yw Gwregysau Melyn, h.y. gweithwyr neu oruchwylwyr, yr unigolion hynny sy’n chwarae rôl hanfodol mewn newid diwylliant sefydliad a'i chynnal dros y tymor hir. Bydd Gwregys Melyn yn deall egwyddorion sylfaenol Lean Six Sigma, ond ni fydd yn arwain prosiectau ar ei ben ei hun. Mae’r Gwregys Melyn yn casglu data, yn cyfranogi mewn gwaith datrys problemau ac yn cyfrannu eu profiadau personol o ddatrys problemau cymhleth mewn sefydliadau.
Gwregys Gwyrdd yw rhywun sy'n gallu arwain prosiectau gwella ac sy'n gallu gweithio'n annibynnol i ddatrys problemau a gwella. Yn aml, byddant yn gweithio fel rhan o dîm ehangach o dan oruchwyliaeth Gwregys Du sy'n gyfrifol am roi gwelliannau mawr ar waith yn strategol. Mae'r mwyafrif o reolwyr mewn sefydliadau sy’n hen gyfarwydd â Lean Six Sigma yn Wregysau Gwyrdd fel y gallant ymgorffori gweithgaredd gwella i'r ffordd maen nhw'n rheoli eu gwaith.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Gwregys Melyn
- Sut mae Lean a Six Sigma yn cydymffurfio ag egwyddorion Systems Thinking & Industry 4.0
- Sut i gymhwyso egwyddorion sylfaenol Lean Six Sigma a'i fetrigau allweddol
- Deall dull gwella Six Sigma DMAIC ar gyfer datrys problemau
- Deall isadeiledd sefydliadol Lean Six Sigma, ei rolau a’i gyfrifoldebau
- Sut i gymhwyso adnoddau a thechnegau Lean / Six Sigma ar gyfer datrys problemau
- Dysgu sut i ddewis prosiect gan ddefnyddio methodoleg dewis prosiect gwrthrychol ar gyfer rhaglen Lean / Six Sigma.
Gwregys Gwyrdd
- Gwerthfawrogi sut mae Lean Six Sigma yn ategu ac yn gweithio gyda Systems Thinking
- Deall sut y gall Lean Six Sigma hybu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
- Gwerthfawrogi sut mae Lean Six Sigma yn gweithio o fewn Industry 4.0
- Deall metrigau allweddol Lean a Six Sigma i fesur llwyddiant prosiectau
- Gallu defnyddio meddalwedd Minitab ar gyfer prosiectau Lean Six Sigma
- Gallu cymhwyso methodoleg Lean Six Sigma DMAIC i sefyllfaoedd datrys problemau
- Defnyddio cysyniadau ystadegol sylfaenol a datblygedig (megis dadansoddi atchweliad, profi rhagdybiaethau, Siartiau Rheoli Prosesau Ystadegol) er mwyn gwella prosesau
- Deall rôl a chyfrifoldebau ymarferwyr Gwregys Gwyrdd
Ennill achrediad
Gwregys Melyn
- Llwyddo mewn arholiad amlddewis, llyfr agored, ar ddiwedd yr ail ddiwrnod
- Cewch chi ei ailsefyll unwaith yn ystod y cwrs.
Gwregys Gwyrdd
- Cwblhau prosiect gwella lefel gwregys gwyrdd yn llwyddiannus gan gynnwys cyflwyno adroddiad prosiect a chyflwyno cyflwyniad cryno.
Mae’r hyfforddiant Gwregys Melyn a Gwregys Gwyrdd yn cael ei achredu gan Lean Competency System (LCS), at Lefel 1a a Lefel 1c. Mae yna brawf ar-lein trwy Ganolfan Asesu LCS, ac mae angen prosiect gweithredu fel rhan o’r asesiad Gwregys Gwyrdd.
Yr LCS yw’r prif gymhwyster gwella parhaus yn y gweithle, ac fe’i ddefnyddir gan sefydliadau ledled y byd. Mae dod yn ardystiedig o’r LCS yn eich galluogi i ddod yn Aelod Ymarferydd LCS sy’n eich galluogi i gael gafael mewn adnoddau i’ch helpu i ymarfer ac addysgu, sefydlu proffil hygrededd digidol, a defnyddio platfform Datblygiad Proffesiynol Parhaus LCS.
Lleoliad
Yn Fyw Ar-lein drwy Zoom.