Ewch i’r prif gynnwys

Gwregys Melyn Lean Six Sigma (ar-lein)

Mae'r rhaglen ddwys 2-ddiwrnod hon yn cyfuno pŵer lleihau gwastraff Lean Six Sigma wedi'i yrru gan ddata â thechnolegau Diwydiant 4.0.

Bydd yn rhoi'r dulliau a'r technegau i chi ar gyfer gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithrediadau a datgloi gwelliannau trawsnewidiol o fewn eich sefydliad a'i gadwyn gyflenwi.

  • Datgloi gwelliannau
  • Sbarduno arloesedd
  • Hwb aruthrol I berfformiad

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhaglen bwrpasol hefyd y gallwn ei theilwra i'ch gofynion penodol. Os hoffech drafod hyn cysylltu â ni.

Os hoffech astudio'r rhaglen lawn, gallwch gofrestru ar gyfer Haen Felen a Gwyrdd Lean Six Sigma.

Os oes gennych wregys melyn eisoes (naill ai gydag Ysgol Busnes Caerdydd neu gan ddarparwr arall) byddwch yn manteisio'n fawr o ddwysau eich gwybodaeth trwy gwblhau'r rhaglen Gwregys Gwyrdd Lean Six Sigma tri diwrnod, y gallwch ei hastudio ar wahân.

Maneesh Kumar fydd eich hyfforddwr.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill

Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi . Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.

Aeth rhywbeth o'i le

Nid yw'ch ymholiad wedi'i gyflwyno. Cysylltwch â ni drwy ebostio training@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44 (0)29 2087 5274.

Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich enw cyntaf.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfenw.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfeiriad ebost.
A hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am y cwrs hwn, yn ogystal â newyddion, digwyddiadau a chynigion CPD?

Hysbysiad am breifatrwydd a diogelu data

Bydd Prifysgol Caerdydd yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data. Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i’r Brifysgol brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch, yn unol â’r dewisiadau a nodwyd gennych uchod a rheoliadau diogelu data. Cewch newid eich meddwl ynglŷn â rhoi caniatâd ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r Tîm Datblygiad Proffesiynol.

Ewch i’n tudalennau gwybodaeth gyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau, a sut i fynegi pryder ynghylch sut y caiff eich data bersonol ei brosesu.Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol - inforequest@caerdydd.ac.uk. Gallwch hefyd fynegi unrhyw bryder drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Diolch

Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.

Ar gyfer pwy mae hwn

  • goruchwylwyr llinell, rheolwyr canol, ac uwch-reolwyr o swyddogaethau craidd
  • uwch-reolwyr neu reolwyr canol o Adnoddau Dynol, Cyllid a TG
  • tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid a’r tîm Ansawdd
  • rheolwyr cyfrif sy'n rheoli cwsmeriaid/asiantau allweddol
  • aelodau o'r tîm ôl-werthu a gwasanaeth
  • unrhyw aelodau o dimau eraill sy'n gyfrifol am brosesau neu swyddogaethau allweddol

Haen Felen a Gwyrdd Lean Six Sigma

Nodweddion Allweddol

  • Lean a Six Sigma: golwg dwfn ar egwyddorion a dulliau Lean a Six Sigma i ddeall sut maent yn gweithio ochr yn ochr i ddileu gweithgareddau nad ydynt yn ychwanegu gwerth, lleihau gwastraff, a symleiddio prosesau
  • meistroli ystadegau i wella canlyniadau: meistroli adnoddau a thechnegau ystadegol hanfodol i ddadansoddi perfformiad prosesau, nodi achosion sylfaenol problemau, a mynd ati'n hyderus i gyflwyno datrysiadau ar sail data
  • diwydiant 4.0: dysgwch sut y gall technolegau Diwydiant 4.0 sy'n cael eu gyrru gan ddata fel Deallusrwydd Artiffisial, Data Mawr, a'r Rhyngrwyd Pethau roi hwb anferthol i'ch mentrau Lean Six Sigma, gan eich galluogi i optimeiddio mewn amser real a datgloi arloesedd sy'n tarfu

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Mae Bloc Un yn ddau ddiwrnod o hyfforddiant Haen Felen Lean Six Sigma. Mae wedi'i ddatblygu i alluogi staff gweithredol i ddefnyddio'r hyn maent yn ei ddysgu ar unwaith, gan eich galluogi i benderfynu pryd i ddefnyddio Lean neu Six Sigma neu adnoddau a thechnegau Lean Six Sigma i wella prosesau. Gall hyn arwain at ardystiad Haen Felen Lean Six Sigma 4.0 Prifysgol Caerdydd ar ôl llwyddo mewn arholiadamlddewis ar ddiwedd Bloc 1.

Ennill achrediad

Mae’r hyfforddiant Haen Felen yn cael ei achredu gan Lean Competency System (LCS), at Lefel 1a.

Yr LCS yw’r prif gymhwyster gwella parhaus yn y gweithle, ac fe’i ddefnyddir gan sefydliadau ledled y byd. Mae dod yn ardystiedig o’r LCS yn eich galluogi i ddod yn Aelod Ymarferydd LCS sy’n eich galluogi i gael gafael mewn adnoddau i’ch helpu i ymarfer ac addysgu, sefydlu proffil hygrededd digidol, a defnyddio platfform Datblygiad Proffesiynol Parhaus LCS.

Pynciau dan sylw

  • defnyddio technegau Lean Six Sigma perthnasol mewn byd ôl-COVID
  • integreiddio Lean Six Sigma gyda thechnolegau Diwydiant 4.0
  • integreiddio Meddwl ar sail Systemau i sicrhau manteision cynaliadwy o ganlyniad i Fentrau Gwella Parhaus
  • deall metrigau allweddol Lean a Six Sigma
  • defnyddio meddalwedd Minitab ar gyfer prosiectau Lean Six Sigma (Bloc 2 yn unig)
  • defnyddio methodoleg Lean Six Sigma DMAIC mewn sefyllfaoedd lle mae angen datrys problemau
  • defnyddio cysyniadau ystadegol sylfaenol ac uwch (megis dadansoddi atchweliad, profi rhagdybiaethau, Dadansoddiad Cysondeb Priodoleddau, Siartiau Rheoli Prosesau Ystadegol) ar gyfer gwella prosesau
  • deall rolau a chyfrifoldebau’r rhai sydd â Haen Wyrdd
  • cwblhau prosiectau ac ysgrifennu'r adroddiad
  • alinio Lean a Six Sigma ag egwyddorion Meddwl ar sail Systemau a Diwydiant 4.0
  • dewis prosiect gan ddefnyddio methodoleg wrthrychol ar gyfer dewis prosiectau rhaglen Lean / Six Sigma

Bydd arholiad amlddewis ar ddiwedd Bloc 1 i brofi a ydych wedi cyflawni’r deilliannau dysgu.

Buddsoddi yn eich dyfodol, cofleidio gwelliant parhaus

Ymunwch â ni ar y daith drawsnewidiol hon a manteisiwch ar bŵer cyfunol Lean Six Sigma a Diwydiant 4.0 i wneud cynnydd sylweddol a chynaliadwy o ran perfformiad yn eich sefydliad. Cysylltwch â ni heddiw i drafod sut y gall yr hyfforddiant pwrpasol hwn rymuso eich tîm a galluogi eich busnes i gamu ymlaen.

Manteision

  • wedi'i deilwra i'ch anghenion: rydym yn addasu cynnwys yr hyfforddiant a ffocws y prosiect i fynd i'r afael â'ch heriau sefydliadol penodol a'ch nodau ar gyfer gwella
  • dull dysgu cyfunol: mae'r profiad dysgu yn cael ei wella gyda deunyddiau i'w darllen ymlaen llaw, sesiynau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, gweithdai rhyngweithiol, a chymorth parhaus ar gyfer y prosiect
  • nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol: mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer staff gweithredol heb unrhyw brofiad blaenorol o Lean Six Sigma, gan roi'r wybodaeth a'r sgiliau hanfodol i chi gael effaith ar unwaith
  • ymarferol: ffocws ar adnoddau a thechnegau y gellir eu defnyddio ar unwaith
  • cefnogaeth ar ôl yr hyfforddiant: mae ein hyfforddwr arbenigol yn parhau i fod ar gael i'ch tywys a'ch cefnogi drwy gydol eich prosiect Haen Wyrdd, gan eich helpu i lwyddo a sicrhau canlyniadau cynaliadwy
  • wedi'i hwyluso gan academydd o Ysgol Busnes Caerdydd sydd â phrofiad sylweddol ar draws sectorau a phrofiad byd-eang

Lleoliad

Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd
Colum Road
Caerdydd
CF10 3EU

Rydym yn cynnig nifer o raglenni cyffrous, gan gynnwys cyrsiau Di-wastraff a Rheoli. Mae'r rhain yn eich galluogi i gael safbwyntiau newydd ar amrywiaeth o faterion busnes a rheoli.