Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: Rhan 2 (24 Ebrill 2024)

Mae'r sesiwn fyw hon yn atodol i Gyflwyniad i Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: Rhan 1 (ar lein). Mae'n adeiladu ar y deunyddiau e-ddysgu, felly dylai cyfranogwyr sy'n dymuno archebu gwblhau'r cynnwys ar-lein yn gyntaf.

Dr John Madden, Darlithydd mewn Technolegau Cwantwm fydd eich hyfforddwr.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
25 Medi 2024 13:30 - 16:00
Ffi
£240

Ar gyfer pwy mae hwn

  • y rhai sy'n gweithio yn y sector lled-ddargludyddion sy'n dymuno uwchsgilio eu gwybodaeth am ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • gweithwyr y clwstwr CSconnected a'u partneriaid cadwyn gyflenwi
  • y rhai sydd am ailhyfforddi i'r sector lled-ddargludyddion/lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • y rhai sy’n cefnogi’r sector – fel gweithwyr y sector cyhoeddus, athrawon ysgol uwchradd/Colegau AB/cynghorwyr gyrfaoedd/ dylanwadwyr ieuenctid
  • myfyrwyr lefel A a lefel israddedig sy'n astudio pynciau gwyddonol a allai fod â diddordeb mewn gyrfa yn y sector lled-ddargludyddion/lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Gweithgaredd ar Ddeuodau - byddwch chi’n mynd ati i greu cywirydd ac ymchwilio i nodweddion deuodau DC-IV er mwyn:
    • deall sut mae deuodau’n gweithio ar lefel sylfaenol
    • dysgu nodweddion deuodau DC-IV
    • dysgu sut mae’r broses o drosi o AC i DC yn gweithio (yn ei fersiwn symlaf).
  • Gweithgaredd ar Ffabrigo Micro – bydd hyn yn canolbwyntio ar y cysyniad o raddio, a byddwch chi’n defnyddio eitemau megis microsgop, darnau 10c, a waffer silicon er mwyn:
    • deall graddfa syfrdanol o dransistorau modern
    • deall sut mae picselau ar ffonau yn cynhyrchu lliw drwy ficropicselau.
    • Bydd ail ran y gweithgaredd hwn yn edrych ar ficro-ffabrigo dyfeisiau amlhaenog drwy ddefnyddio tryloywderau.
  • Gweithgaredd ar Dransistorau – byddwch chi’n ymchwilio i nodweddion transistor DC-IV Cyffordd Deubegynol (BJT) a Thransistor Effaith Maes Cyffordd (JFET) ac yn pennu uchafswm cerrynt y BJT a’r JFET ar ogwydd penodol, er mwyn:
    • deall sut mae’r ddau dransistor yn gweithio’n sylfaenol
    • dysgu nodweddion DC-IV y ddau dransistor
    • ystyried cymwysiadau’r transitorau
  • Gweithgaredd ar Ganfod Golau a Chelloedd Solar - byddwch chi’n defnyddio Deuodau Allyru Golau (LEDs), ffotodeuodau, a chelloedd solar er mwyn:
    • deall sut mae Deuodau Allyru Golau, ffotodeuodau a chelloedd solar yn gweithio’n sylfaenol
    • deall sut mae dyfeisiau/deunyddiau gwahanol yn gallu cynhyrchu/canfod tonfeddi golau gwahanol
    • deall yr effaith a gaiff y sbectrwm solar ar sut mae cell solar yn gweithio

Arweinydd cwrs

Mae John (JP) Hadden yn Ddarlithydd mewn Technolegau Cwantwm yn Ysgol Beirianneg Caerdydd.

Mae ymchwil JP yn canolbwyntio ar nano-ffotoneg, opteg cwantwm, a thechnolegau synhwyro cwantwm yn seiliedig ar ganolfannau lliw allyrru ffoton sengl mewn deunyddiau lled-ddargludyddion bandgap eang fel gallium nitride, diemwnt a deunyddiau 2D.

Mae JP yn academydd yn Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) Prifysgol Caerdydd, sy'n rhan o'r clwstwr CSconnected. Mae'r ICS yn arweinydd mewn ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd ac yn darparu llwyfan lle gall ymchwilwyr a diwydiant gydweithio. I gael rhagor o wybodaeth am yr ICS cliciwch yma.

Manteision

Bydd y sesiwn fyw hon yn apelio fwyaf at y rhai sy'n dysgu orau trwy wneud. Bydd yn gyfle gwerthfawr ar gyfer:

  • profiad dysgu ymarferol lle bydd cyfranogwyr yn gallu gweld technoleg lled-ddargludyddion ar waith
  • gofyn cwestiynau i arbenigwr, ac i gwrdd â gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio yn y sector
  • amser i gysylltu cynnwys o'r deunyddiau ar-lein â chymwysiadau ymarferol, bywyd go iawn
  • ennill gwybodaeth y gall cyfranogwyr ei chymryd yn syth i'w gwaith
  • amgylchedd cefnogol lle bydd cyfranogwyr yn gweithio mewn grwpiau bach ar garwsel o weithgareddau, wedi’u hwyluso gan arweinydd y sesiwn (yn ôl yr angen)

Datblygwyd y cwrs hwn gan y Brifysgol mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiant o'r clwstwr CSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd sydd wedi'i leoli yn Ne Cymru a'r cyffiniau yn y Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio cyllid a ddarparwyd gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI.

Dyluniwyd y cyrsiau hyn er mwyn:

  • uwch-sgilio’r gweithwyr hynny yn y diwydiant sydd am wella eu gwybodaeth ynghylch ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • helpu i ail-sgilio’r unigolion hynny sy’n dymuno ail-hyfforddi i ymuno â’r diwydiant, neu ddarparu gwybodaeth a chyd-destun i’r rhai sy’n cefnogi’r sector

Cyllid sydd ar gael

Ar gyfer unigolion

  • ReAct+ - hyd at £1,500 ar gyfer hyfforddiant sgiliau perthnasol i'r rhai 18+ sy'n byw yng Nghymru ac yn ddi-waith neu o dan rybudd ffurfiol o ddiswyddiad. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma

Ar gyfer sefydliadau

  • Cyllid y Rhaglen Sgiliau Hyblyg – hyd at 50% o gymorth ariannol i fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Am fanylion, cliciwch yma
  • ReAct+ - hyd at £1,000 ar gyfer hyfforddiant sgiliau sy'n gysylltiedig â swydd wrth recriwtio rhywun 18+ sy'n preswylio yng Nghymru ac yn ddi-waith neu o dan rybudd diswyddo ffurfiol. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma

Lleoliad

sbarc|spark
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ

Dewch i gael gwybod am y gyfres newydd o gyrsiau byr a gynlluniwyd i gefnogi anghenion DPP CSconnected, y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne Cymru