Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: Rhan 1 (ar lein)

Mae Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ddeunyddiau hanfodol ar gyfer technolegau modern a newydd fel 5G, ceir heb yrwyr, Rhyngrwyd Pethau (IoT), a Deallusrwydd Artiffisial (AI).

Mae ganddynt hefyd ran allweddol i'w chwarae wrth helpu i fynd i'r afael â rhai o heriau'r byd modern, gan gynnwys cynaliadwyedd a'r agenda sero net.

Efallai eich bod yn fwy cyfarwydd â Silicon, a fu’n asgwrn cefn i’r chwyldro electroneg o’r 1960au. Gan ei fod yn elfen sengl o'r tabl cyfnodol, mae gan Silicon set gyfyngedig o briodweddau. Mae gan Led-ddargludyddion Cyfansawdd briodweddau gwell na Silicon, gan alluogi llawer o dechnolegau a dyfeisiau newydd ac arloesol megis:

  • pŵer (electroneg pŵer ar gyfer cerbydau trydan)
  • cyflymder (amledd radio ar gyfer 5G a RADAR)
  • golau (ffotoneg ar gyfer cyfathrebu ffibr optegol)

Mae hwn yn gwrs ar-lein y gallwch ei wneud yn eich amser eich hun. Bydd yr hyfforddiant yn cymryd tua 3.5 awr i'w gwblhau.

Bydd yn cael ei gyflwyno trwy amrywiaeth o weithgareddau ar-lein a rhyngweithiol megis fideos byr ac ymarferion i brofi eich gwybodaeth.

Sylwer: Dim ond gyda cherdyn credyd y gallwn dderbyn taliad ar gyfer y cwrs hwn. Byddwch yn derbyn mynediad at ddeunyddiau'r cwrs heb fod yn hwyrach nag wythnos ar ôl gwneud taliad. Bydd gennych fynediad am 2 fis o'r dyddiad y byddwch yn cyrchu'r deunyddiau dysgu am y tro cyntaf.

Dr John Hadden, Darlithydd mewn Technolegau Cwantwm fydd eich hyfforddwr.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
20 Mai 2024 Cwrs ar-lein 3.5 awr i'w gymryd yn eich amser eich hun
Ffi
£150

Ar gyfer pwy mae hwn

  • y rhai sy'n gweithio yn y sector lled-ddargludyddion sy'n dymuno uwchsgilio eu gwybodaeth am electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • gweithwyr y clwstwr CSconnected a'u partneriaid cadwyn gyflenwi
  • yrhai sydd am ailhyfforddi i'r sector lled-ddargludyddion/lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • yrhai sy’n cefnogi’r sector – fel gweithwyr y sector cyhoeddus, athrawon ysgol uwchradd/Colegau AB/cynghorwyr gyrfaoedd/ dylanwadwyr ieuenctid
  • myfyrwyr lefel A a lefel israddedig sy'n astudio pynciau electroneg neu wyddoniaeth a allai fod â diddordeb mewn gyrfa yn y sector lled-ddargludyddion/lled-ddargludyddion cyfansawdd

At ba lefel mae'r cwrs wedi'i anelu?

Mae hwn yn gwrs lefel rhagarweiniol a allai fod yn addas ar gyfer pobl o ystod eang o gefndiroedd.

Mae'r elfen wyddoniaeth wedi'i hanelu at safon Lefel A, felly i gael y profiad gorau o'r cwrs rydym yn cynghori bod gan gyfranogwyr rywfaint o wybodaeth gefndir a dealltwriaeth sylfaenol o ffiseg / gwyddoniaeth neu beirianneg. Er enghraifft, byddai'n ddefnyddiol cael gwybodaeth sylfaenol am atomau ac electronau.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Erbyn diwedd y cwrs, dylai fod pawb yn gallu:

  • egluro electroneg lled-ddargludyddion – beth ydyw a ble mae i'w gael mewn bywyd bob dydd
  • disgrifio, mewn termau syml, beth yw defnyddiau lled-ddargludyddion, gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng defnyddiau elfennol (silicon) a lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • disgrifio, ar lefel sylfaenol, sut mae cylchedau electronig lled-ddargludyddion yn cael eu gwneud
  • deall, mewn termau syml, cymwysiadau lled-ddargludyddion a pha led-ddargludyddion all fod yn briodol yn dibynnu ar ystyriaethau perfformiad a chost
  • gwerthfawrogi cymwysiadau'r farchnad bresennol ac yn y dyfodol ar gyfer electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • egluro sut mae electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cyfrannu at gymdeithas, at ddatblygiad technolegau newydd, ac yn helpu i fynd i’r afael â heriau’r byd modern

Rydym yn cynnig sesiwn wyneb yn wyneb yn Rhan 2 y cwrs hwn, sy’n ychwanegu at y deunyddiau ar-lein yn Rhan 1. Mae'r sesiwn hon yn un dewisol a rhaid cadw eich lle a thalu amdano ar wahân.

Pynciau dan sylw

  • ffiseg syml y tu ôl i briodweddau lled-ddargludyddion
  • cryfderau lled-ddargludyddion cyfansawdd ar gyfer rhai cymwysiadau e.e gallium nitride (GaN) a silicon carbid (SiC) o gymharu â silicon (Si) a lled-ddargludyddion cyfansawdd eraill
  • sut mae dyfeisiau electronig lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cael eu gwneud gan gynnwys:
    • twf materol (epitacsi)
    • gwneuthuriad nano a micro
    • nodweddu/profi
  • cymhwyso electroneg lled-ddargludyddion ac electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan gynnwys:
    • deuodau a transistorau
    • dyfeisiau pŵer
    • RF
    • LEDs
    • celloedd solar
    • synwyryddion
  • trosolwg o heriau mewn datblygu technoleg electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd, o wafferi i gylchedau integredig
  • datgelu geiriau/cysyniadau allweddol o'r sector

Dull cyflwyno

Mae hwn yn gwrs e-ddysgu y gellir ei gyrchu o bell yn eich amser eich hun. Mae'n tua. 3.5 awr oddeunyddiau ar-lein sydd wedi'u strwythuro'n adrannau sy'n cynnwys fideos byr a rhai gweithgareddau i brofi eich gwybodaeth. Mae yna hefyd Fwrdd Trafod lle gall cyfranogwyr ofyn cwestiynau i'r tiwtor ac eraill ar y cwrs.

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiant o’r clwstwr CSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd sydd wedi’i leoli yn ac o amgylch De Cymru yn y Deyrnas Unedig.

Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'w gwblhau yn eich amser eich hun ac ar gyflymder sy’n addas i chi. Nid oes elfen fyw ond byddwch yn cael cyfle i gysylltu â'r tiwtor arweiniol. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy blatfform dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog. Bydd eich manylion mewngofnodi unigol yn cael eu ebostio atoch ychydig ddyddiau cyn i'ch mynediad at y cwrs ddechrau.

Bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r cwrs am hyd at fis.

Bydd Tystysgrif Cwblhau DPP yn cael ei rhoi i ddysgwyr sy'n cyflawni 70% neu ragor yn y prawf ar ddiwedd y cwrs.

Arweinydd cwrs

Mae John (JP) Hadden yn Ddarlithydd mewn Technolegau Cwantwm yn Ysgol Beirianneg Caerdydd.

Mae ymchwil JP yn canolbwyntio ar nano-ffotoneg, opteg cwantwm, a thechnolegau synhwyro cwantwm yn seiliedig ar ganolfannau lliw allyrru ffoton sengl mewn deunyddiau lled-ddargludyddion bandgap eang fel gallium nitride, diemwnt a deunyddiau 2D.

Mae JP yn academydd yn Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) Prifysgol Caerdydd, sy'n rhan o'r clwstwr CSconnected. Mae'r ICS yn arweinydd mewn ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd ac yn darparu llwyfan lle gall ymchwilwyr a diwydiant gydweithio.

Manteision

Datblygwyd y cwrs hwn gan y Brifysgol mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiant o'r clwstwr CSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd sydd wedi'i leoli yn Ne Cymru a'r cyffiniau yn y Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio cyllid a ddarparwyd gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI.

Mae pob cwrs yn gyflwyniad byr i’r meysydd allweddol yn niwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, ac sydd wedi'u cynllunio er mwyn i gyfranogwyr allu eu cwblhau pryd bynnag sy’n gyfleus iddyn nhw. Cafodd y cyrsiau hyn eu creu drwy ymgynghori a gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau yng nghlwstwr CSconnected i sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.

Dyluniwyd y cyrsiau hyn er mwyn:

  • uwch-sgilio’r gweithwyr hynny yn y diwydiant sydd am wella eu gwybodaeth ynghylch ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • helpu i ail-sgilio’r unigolion hynny sy’n dymuno ail-hyfforddi i ymuno â’r diwydiant, neu ddarparu gwybodaeth a chyd-destun i’r rhai sy’n cefnogi’r sector

Cyllid sydd ar gael

Ar gyfer unigolion

  • ReAct+ - hyd at £1,500 ar gyfer hyfforddiant sgiliau perthnasol i'r rhai 18+ sy'n byw yng Nghymru ac yn ddi-waith neu o dan rybudd ffurfiol o ddiswyddiad. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma

Ar gyfer sefydliadau

  • Cyllid y Rhaglen Sgiliau Hyblyg – hyd at 50% o gymorth ariannol i fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Am fanylion, cliciwch yma
  • ReAct+ - hyd at £1,000 ar gyfer hyfforddiant sgiliau sy'n gysylltiedig â swydd wrth recriwtio rhywun 18+ sy'n preswylio yng Nghymru ac yn ddi-waith neu o dan rybudd diswyddo ffurfiol. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma
Dewch i gael gwybod am y gyfres newydd o gyrsiau byr a gynlluniwyd i gefnogi anghenion DPP CSconnected, y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne Cymru