Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau byr i gefnogi twf yn y sector lled-ddargludyddion

20 Medi 2023

Photonics solar thermal plant

Oes gennych chi ddiddordeb mewn sgiliau i gefnogi'r diwydiant lled-ddargludyddion? Allech chi neu eich sefydliad elwa o gyrsiau byr i helpu i uwchsgilio ac ailsgilio'r rhai sy'n gweithio yn y sector?

Yn rhan o Gronfa Cryfder mewn Lleoedd CSconnected, mae Prifysgol Caerdydd yn cydlynu’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno cyfres o gyrsiau byr sydd wedi’u cynllunio i gefnogi anghenion datblygiad proffesiynol parhaus CSconnected – y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne Cymru. Cyfuniad o gyflwyniadau byr ar-lein ac wyneb-yn-wyneb ydynt i feysydd allweddol y diwydiant. Cawsant eu creu drwy ymgynghori a gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau yng nghlwstwr CSconnected i sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.

Mae'r cyntaf o'r cyrsiau – ‘Protocolau’r Ystafell Lân’ – eisoes yn fyw, sy’n golygu y gallwch gadw lle arno. Mae pum cwrs arall wrthi’n cael eu datblygu, a byddant yn cael eu lansio dros y misoedd nesaf. Y bwriad yw y bydd rhagor o gyrsiau’n dilyn.

Protocolau Ystafell Lân

Ar gael i gadw lle arno – carfannau misol – yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr newydd yn rhan o hyfforddiant ymsefydlu DOLEN

Cwrs ar-lein sy’n cymryd tua awr i’w gwblhau.

Mae'r cwrs hwn yn rhoi trosolwg o sut beth yw gweithio mewn amgylchedd ystafell lân ar gyfer cynhyrchu nanoraddfa. Mae'n ymdrin ag arferion gwaith nodweddiadol yn ogystal ag egwyddorion cyffredinol ar gyfer gweithio'n ddiogel.

Pynciau dan sylw:

  • Safonau dosbarthu rhyngwladol ystafell lân
  • Yr amrywiaeth o ystafelloedd glân y mae gwahanol sefydliadau'n gweithredu ynddynt
  • Yr hyn y mae'r gwahanol ddosbarthiadau'n ei olygu o ran arferion gwaith nodweddiadol
  • Egwyddorion cyffredinol gweithio mewn amgylchedd ystafell lân, gan gynnwys:
    • Sut i wisgo’r dillad yn gywir
    • Sut i fynd i mewn i'r ystafell lân yn gywir
    • Sut i lanhau offer yn gywir
    • Ymddygiad disgwyliedig
    • Sut i weithio mewn ffordd lân
  • Llif aer yr ystafell lân a'r broses hidlo
  • Risgiau iechyd a diogelwch cyffredinol o weithio mewn amgylchedd ystafell lân, gan gynnwys sut i weithio'n ddiogel gyda gwahanol gemegau
  • Delio â digwyddiadau iechyd a diogelwch cyffredinol, megis gollyngiadau cemegol a larymau nwy/tân.

Cyrsiau sydd ar ddod

CwrsStatwsDull cyflwynoTrosolwg

Cyflwyniad i Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Wrthi’n cael ei ddatblygu, yn lansio ddiwedd 2023

Cyfunol – deunyddiau ar-lein yn ogystal â sesiwn fyw ategol (wyneb-yn-wyneb)

Yn cyflwyno technoleg electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd a ffyrdd o’i defnyddio.

Cyflwyniad i Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Wrthi’n cael ei ddatblygu, yn lansio ddiwedd 2023

Cyfunol – deunyddiau ar-lein yn ogystal â sesiwn fyw ategol (wyneb-yn-wyneb)

Yn cyflwyno technoleg ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd a ffyrdd o’i defnyddio.

Cyflwyniad i Theori Ysgythru

Yn lansio ddechrau 2024

IWyneb-yn-wyneb (potensial i droi rhywfaint o’r cynnwys yn gynnwys ar-lein)

Yn cyflwyno theori ysgythru gwlyb a sych (neu blasma) ac yn datblygu sylfaen wybodaeth am y rhan hon o’r broses creu wafferi, gan gynnwys dealltwriaeth ohoni.

Cyflwyniad i Theori Bondio Gwifrau

Yn lansio ddechrau 2024

Wyneb-yn-wyneb (potensial i droi rhywfaint o’r cynnwys yn gynnwys ar-lein)

Yn uwchsgilio’r rhai sy’n cymryd rhan drwy roi gwybodaeth ddamcaniaethol am y broses bondio gwifrau, a hynny er mwyn magu gwerthfawrogiad o sut mae offer bondio gwifrau’n gweithio a sicrhau penderfyniadau gwell wrth ddatblygu’r broses bondio gwifrau.

Deall y Gadwyn Cyflenwi Lled-ddargludyddion

Wrthi’n cael ei ddatblygu, yn lansio yn 2024

I’w gadarnhau

Yn ceisio gwella ymwybyddiaeth gyffredinol o wahanol gamau’r gadwyn cyflenwi lled-ddargludyddion/lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan helpu’r staff i wneud penderfyniadau gwell wrth eu gwaith.

CSconnected SiPF logo

Gair am Gronfa Cryfder mewn Lleoedd CSconnected

Clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd yw CSconnected, ac mae wedi’i leoli yn Ne Cymru (y DU) a’r cyffiniau. Mae Cronfa Cryfder Mewn Lleoedd CSconnected yn brosiect 55 mis o hyd sy’n werth £43 miliwn i gyd. Mae’n cael ei gefnogi gan gyllid gwerth £25 miliwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Cryfder Mewn Lleoedd flaenllaw Ymchwil ac Arloesedd y DU.

Os hoffech gael gwybod rhagor am y cyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus sy’n cael eu cynnig/datblygu, cysylltwch â Kate.

Kate Sunderland

Kate Sunderland

Rheolwr Prosiect Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) - CSconnected | Rheolwr Datblygu Busnes - Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Email
sunderlandk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9119

Rhannu’r stori hon

Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.