Ewch i’r prif gynnwys

Gwell capsiwlau anadlydd powdr sych ar gyfer clefyd parhaol yr ysgyfaint

Capsules and dry powder inhaler
Qualicaps® capsules for dry powder inhalers. Copyright: Qualicaps®

Mae’n hymchwil wedi helpu cwmni Qualicaps® i gynhyrchu capsiwlau ar gyfer anadlyddion powdr sych, a rheoli eu hansawdd.

Ar y cyd â chwmni Qualicaps®, sy’n flaenllaw ledled y byd ym maes capsiwlau anadlyddion, dyfeisiodd yr Athro James Birchall a’r Dr Sion Coulman (Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd) brawf i werthuso pa mor effeithiol y gellid tyllu capsiwlau anadlyddion powdr sych.

Mae’n hymchwil wedi llywio prosesau cynhyrchu’r cwmni, helpu’r cwmni i werthu llawer mwy o’i brif gynhyrchion a’i alluogi i gyrchu marchnadoedd newydd. Mae miliynau o gleifion clefyd parhaol yr ysgyfaint ledled y byd yn defnyddio’r capsiwlau mewn anadlyddion powdr sych bellach.

'Rydyn ni o’r farn bod y cydweithio blaenorol a phresennol â Phrifysgol Caerdydd yn rhan sylfaenol o’n cynaladwyedd a’n llwyddiant masnachol yn ogystal â rhan allweddol o’n hymdrechion parhaus i wella ansawdd.'
Susana Ecenarro, Is-lywydd Ymchwil a Datblygu / Rheoleiddio Qualicaps® EMEA a De Asia

Sut mae capsiwlau'n cael eu defnyddio mewn anadlyddion powdr sych ar gyfer clefyd parhaol yr ysgyfaint

Bydd meddygon yn rhagnodi miliynau o anadlyddion powdr sych bob blwyddyn i gleifion clefyd parhaol yr ysgyfaint megis asthma.

Mae gan sawl anadlydd o’r fath gapsiwl sy’n cynnwys cyffur powdr. Wrth ddefnyddio’r anadlydd, bydd claf yn gwasgu botwm sy’n gwthio pinnau i dorri trwy wal y capsiwl. Yna, bydd powdr yn y capsiwl yn llifo trwy’r tyllau fel y gall y claf ei anadlu i mewn a lleddfu sumptomau clefyd yr ysgyfaint. Yna, bydd powdr yn y capsiwl yn llifo trwy’r tyllau fel y gall y claf ei anadlu i mewn a lleddfu sumptomau clefyd yr ysgyfaint.

diagram of a capsule being punctures
Copyright: Qualicaps®

Pennu sut y bydd deunyddiau a’r amgylchedd yn effeithio ar broses tyllu capsiwlau anadlyddion powdr sych.

Dyfeisiodd ein tîm ymchwil y prawf cyntaf o'i fath i bennu sut y gall deunydd capsiwl a’r lleithder a’r tymheredd o’i amgylch effeithio ar broses ei dyllu i ryddhau'r cyffur sydd ynddo.

O’u cymharu â chapsiwlau gelatin, dangoson nhw fod modd tyllu capsiwlau premiwm Qualicaps® sydd wedi’u gwneud o HPMC (hydroxypropylmethylcellulose) yn effeithiol pan fo’r lleithder yn isel. Dangosodd y tîm fod modd tyllu capsiwlau HPMC sydd wedi’u cadw mewn tymheredd isel yn effeithiol, hefyd.

Roedd y canfyddiadau hynny’n bwysig iawn i gwmni Qualicaps®. Fe roes y prawf ddata manwl i’w lledaenu ymhlith clientiaid oedd wedi mynegi pryder am effeithiau lleithder isel ar ansawdd a dibynadwyedd powdr sych mewn capsiwlau ar gyfer anadlyddion.

Cardiff research findings shown in Qualicaps® marketing brochure.
Cardiff research findings shown in Qualicaps® marketing brochure. Copyright: Qualicaps®

Llywio proses datblygu’r nwyddau, helpu’r cwmni i dyfu a gwella ansawdd y capsiwlau er lles cleifion.

Defnyddiodd tîm rheoli ansawdd Qualicaps® ganfyddiadau ein prawf i wella cynhyrchion. Dylanwadodd ein canfyddiadau ar fuddsoddiad newydd Qualicaps® yng ngwaith ymchwil a datblygu nwyddau ar gyfer anadlyddion, hefyd.

At hynny, mae’n hymchwil wedi llywio strategaeth farchnata a gwerthu Qualicaps® er twf y cwmni. Er enghraifft, mae Qualicaps® yn parhau i gyflwyno ein data mewn cynadleddau rhyngwladol o bwys ac yn crybwyll ein canfyddiadau yn ei ddeunyddiau marchnata i ddenu rhagor o fusnes.

Qualicaps® capsules

Mae’n hymchwil wedi helpu’r cwmni i gynyddu nifer y capsiwlau HMRC mae’n eu gwerthu ar gyfer anadlyddion powdr sych o 91%. At hynny, mae’n canfyddiadau wedi llywio penderfyniad y cwmni i ddechrau hyrwyddo a gwerthu’r capsiwlau mewn marchnadoedd newydd ledled y byd. Fe roes ymchwil Prifysgol Caerdydd dystiolaeth gadarn y byddai capsiwlau premiwm Qualicaps® yn cael eu tyllu’n effeithiol mewn amryw dymereddau a gwahanol lefelau o leithder gan roi i’r cwmni hyder y gallai werthu ei nwyddau mewn gwledydd lle mae ffactorau amgylcheddol yn achosi pryder.

“Mae'r ymchwil hon wedi’n helpu i ddeall sut y gallwn ni ddefnyddio capsiwlau ac anadlyddion powdr sych i leddfu clefyd parhaol yr ysgyfaint. Rydyn ni’n falch bod ein canfyddiadau wedi dylanwadu ar broses cynhyrchu a thyllu capsiwlau un o gyflenwyr mwyaf y byd ym maes hwyluso anadlu.”
Dr Sion Coulman Uwch-ddarlithydd

Ffeithiau allweddol

  • Diben profion ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd oedd gweld a allai capsiwlau Qualicaps® (un o gyflenwyr mwyaf y byd ym maes capsiwlau anadlyddion) gael eu tyllu’n effeithiol.
  • Mae Qualicaps® wedi defnyddio ein canfyddiadau i lywio ei strategaethau marchnata a gwerthu ac mae’n data wedi dylanwadu ar fuddsoddiad y cwmni yng ngwaith ymchwil a datblygu ei nwyddau ar gyfer anadlyddion.
  • Gallai miliynau o gleifion clefyd parhaol yr ysgyfaint sy'n defnyddio capsiwlau Qualicaps® elwa ar ansawdd gwell yn sgîl ymchwil Prifysgol Caerdydd.

Ein partner