Ewch i’r prif gynnwys

Mae technoleg ProTide Caerdydd wrthi’n dechrau treialon clinigol i dargedu canserau sy'n gwrthsefyll cyffuriau

Scientist examining liquid in lab

Defnyddiwyd technoleg ProTide arloesol Caerdydd i ddatblygu cyfansoddion cyffuriau a allai arwain at driniaethau canser mwy effeithiol.

Rhagnodir cemotherapi i filiynau o gleifion canser sy'n defnyddio cyffuriau sy'n seiliedig ar niwcleosidau i geisio targedu celloedd canser. Fodd bynnag, mae rhai mathau o ganser yn gallu gwrthsefyll y cyffuriau hyn. Mae ymchwilwyr Caerdydd wedi defnyddio eu technoleg o blaid niwcleotidau (ProTide) i ddatblygu cyfansoddion newydd sy'n gweithio ar y cyd â chyffuriau cemotherapi presennol i'w gwneud yn fwy effeithiol. Mae tri o gyffuriau ProTide gwrth-ganser Caerdydd wedi dechrau treialon clinigol, gan arwain at obaith newydd i gleifion sy'n byw gyda rhai o'r canserau anoddaf i’w trin.

Cyfyngu rhai cyffuriau cemotherapi

Defnyddir cyffuriau cemotherapi i atal twf celloedd canser heb reolaeth. Gelwir dosbarth mawr o gyffuriau cemotherapi yn gydweddau Niwcleosid. Mae’r rhain yn atal tiwmor rhag tyfu drwy atal DNA rhag dyblygu ac mae hyn, yn ei dro, yn arwain at farwolaeth celloedd â chanser. Fodd bynnag, gall rhai celloedd â chanser wrthsefyll cyffuriau sy'n seiliedig ar niwcleosidau gan eu gwneud yn llai effeithiol o ran trin mathau penodol o ganser. Mae cyffuriau cemotherapi hefyd yn targedu celloedd iach yn ogystal â chelloedd canser gan arwain at gleifion sy’n wynebu sgil-effeithiau difrifol.

chemotherapy patient in bed
Mae cyfyngiadau’r cyffuriau presennol sy’n trin canser yn golygu bod gwir angen cyffuriau cemotherapi mwy effeithiol a goddefgar i drin ystod o ganserau.

Beth yw technoleg ProTide Caerdydd?

Ar ddechrau'r 1990au, arweiniodd y diweddar Athro Chris McGuigan dîm o ymchwilwyr yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd i ddatblygu platfform cemegol i ddylunio a chyfuno cyfansoddion cemegol i’w datblygu’n gyffuriau. Gelwir y platfform hwn yn dechnoleg ProTide.

Mae technoleg ProTide yn cyfuno dosbarth presennol o gyffuriau o'r enw cydweddau niwcleotid gyda 'prodrug' sef cyfansoddyn cemegol sy'n cael ei droi yn y corff dynol yn gyffur sy’n gweithio mewn ffordd ffarmacolegol. Drwy ychwanegu'r ‘prodrug’, gall cydweddau niwcleotid gyrraedd y celloedd targed er mwyn peri eu bod yn gweithio'n fwy effeithiol.

Professor Chris McGuigan
Professor Chris McGuigan

Defnyddio technoleg Caerdydd i drawsnewid cyffuriau gwrth-ganser

Defnyddiwyd cyfansoddion ProTide Caerdydd i ddechrau i wella effeithiolrwydd cyffuriau gwrthfeirysol i drin amrywiaeth o feirysau sy'n bygwth bywyd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r tîm ymchwil yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd wedi ehangu'r defnydd o ProTides i dargedu canserau sy'n gwrthsefyll cyffuriau.

Erbyn diwedd 2021, roedd ProTides Caerdydd mewn datblygiad clinigol ar draws ystod o astudiaethau clinigol gan gynnwys:

Treialon clinigol ar gyfer deilliad o 5-fluorouracil a gynlluniwyd i dargedu tiwmor solet datblygedig

Mae'r treial hwn wedi dangos manteision cadarnhaol o ran gweithgarwch a diogelwch o'i gymharu â'r driniaeth 5-fluorouracil safonol o diwmorau canser solet.  Mae astudiaethau clinigol pellach bellach ar y gweill i benderfynu pa mor effeithiol y gallai'r ProTide hwn fod pan gaiff ei ddefnyddio ar y cyd â gwahanol gyffuriau ar gyfer canser y colon a’r rhefr.

Treialon clinigol ar gyfer trawsnewidiad ProTide o cordycepin

Dangosodd Cordycepin weithgarwch gwrth-ganser cryf mewn astudiaethau cyn-glinigol ond nid oedd wedi'i ddatblygu fel cyffur cemotherapi oherwydd ei ddadansoddiad metabolig cyflym. Mae trawsnewidiad ProTide o Cordycep yng Nghaerdydd yn cael ei astudio'n glinigol ar hyn o bryd mewn cleifion â thiwmorau solet.

Gallai'r treialon hyn arwain at well triniaethau i fynd i'r afael ag amrywiaeth o ganserau anodd eu trin yn y blynyddoedd i ddod.

Clinical trials nurses working with patients on a medical ward

Ym mis Awst 2009, dechreuodd cwmni biofferyllol newydd yn y DU o'r enw NuCana gytundeb cydweithio a thrwyddedu ymchwil gyda Phrifysgol Caerdydd yn seiliedig ar gryfder ein hymchwil ProTide. Sefydlwyd NuCana i ddefnyddio technoleg ProTide Caerdydd i droi rhai o'r cyffuriau cemotherapi a ragnodir amlaf yn feddyginiaethau mwy effeithiol a mwy diogel i gleifion.

Ffeithiau allweddol

  • Datblygodd Caerdydd blatfform cemegol i ddylunio a chyfuno cyfansoddion cemegol i’w datblygu’n gyffuriau.
  • Mae cyfansoddion proTide yn gweithio ar y cyd â chyffuriau gwrth-ganser sy’n bodoli eisoes i'w gwneud yn fwy effeithiol.
  • Mae tri o gyffuriau ProTide Caerdydd bellach wedi dechrau treialon clinigol gan arwain at obaith i gleifion sy'n byw gyda chanserau sy’n anodd eu trin.

Cwrdd â’r tîm