Ewch i’r prif gynnwys

Cynllunio ymlaen llaw – Myfyrwyr Meistr yn sicrhau cymorth bwrsariaeth

11 Hydref 2021

Coins with young plant on table with backdrop blurred of nature stock photo
Nod Cronfa Fwrsariaeth Brian Large yw cyfoethogi'r cyflenwad o weithwyr proffesiynol cynllunio trafnidiaeth yn y Deyrnas Unedig.

Sicrhawyd tair gwobr Cronfa Fwrsariaeth Brian Large gan fyfyrwyr MSc Trafnidiaeth a Chynllunio yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus Aled Evans, Stephen Hughes a Matthew Dapré yn derbyn £8,000.

Sefydlwyd Cronfa Fwrsariaeth Brian Large ym 1990 mewn teyrnged i Brian Large, gan barhau â'i waith yn cefnogi datblygiad proffesiynol a sgiliau'r rhai yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd ac yn sicrhau y gall myfyrwyr cymwys gwblhau eu hastudiaethau ym maes trafnidiaeth a chynllunio.

Ar ôl clywed y newyddion dywedodd Aled, "Rwy'n falch iawn o gael Bwrsariaeth BrianLarge, a fydd yn cefnogi fy astudiaethau cynllunio trafnidiaeth eleni. Mae'r cwrs MSc Trafnidiaeth a Chynllunio yn rhan annatod i mi o ddatblygu sgiliau perthnasol ym maes polisi, cynllunio a rheoli trafnidiaeth."

Mae'r MSc mewn Cludiant a Chynllunio yn uchel ei pharch am ei haddysgu'n seiliedig ar ymchwil. Fe'i hachredir gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) fel rhaglen meistr 'arbenigol' a'r Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (CIHT)

Dywedodd Cyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Dimitris Potoglou, "Rwy'n llongyfarch Aled, Stephen a Matthew. Mae'n dyst i'w gwybodaeth, eu galluoedd a'u hymrwymiad i ddatblygu ymarfer ac ysgolheictod ym maes cludiant a chynllunio.

"Mae eu llwyddiant yn gymeradwyaeth i'w groesawu o ansawdd a thrylwyredd ein rhaglen ac mae tri o'r pedair bwrsariaeth Brian Large a ddyfarnwyd eleni i fynd i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn newyddion gwych."

Darganfyddwch fwy am rai o'n graddau cynllunio ôl-raddedig eraill.

Cynllunio a Datblygu Rhyngwladol (MSc)

Mae cynllunio trefol yn ddiddorol iawn ac yn mynd i’r afael â heriau newid a datblygu mewn byd sy’n trefoli, ac mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i’ch helpu i lunio eich gyrfa yn y dyfodol mewn ymarfer proffesiynol.

Cynllunio a Datblygu Gofodol (MSc)

Nod yr MSc Cynllunio a Datblygu Gofodol yw eich rhoi ar ben ffordd i fod yn gynllunydd da.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.