Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol disglair i dderbynwyr bwrsariaethau

29 Medi 2020

Myfyrwyr yn dathlu llwyddiant ar ôl derbyn bwrsariaethau sylweddol i gefnogi eu hastudiaethau ôl-raddedig.

Eleni, aeth tri o'r pedwar dyfarniad o Gronfa Bwrsariaeth Brian Large i fyfyrwyr yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio - Cole Cornford, Davide Bertaggia ac Aleena Khan. Byddan nhw'n dechrau ar eu MSc mewn Cludiant a Chynllunio ym mis Tachwedd.

Drwy dderbyn eu bwrsariaethau, maen nhw’n estyn hanes hir a llwyddiannus yr Ysgol o helpu myfyrwyr sydd ar fin dechrau eu cwrs i sicrhau bwrsariaethau a chyllid i gyflawni eu huchelgais academaidd.

Sefydlwyd Cronfa Bwrsariaeth Brian Large ym 1990 mewn teyrnged i Brian Large, Cyfarwyddwr Grŵp MVA (ymgynghorwyr cynllunio cludiant) â'r nod o alluogi "myfyrwyr nad oes ganddynt ddigon o gyllid arall i astudio'n llawn amser heb fod angen cymryd cyflogaeth â thâl yn ystod oriau astudio arferol y brifysgol". Fe'u dyfernir er mwyn parhau â gwaith Brian yn cefnogi datblygiad proffesiynol a sgiliau'r rhai sydd yng nghyfnod cynnar eu gyrfaoedd, ac i sicrhau y gall myfyrwyr cymwys gwblhau eu hastudiaethau ym maes cludiant a chynllunio.

Roedd y tri'n falch ac yn ddiolchgar am eu dyfarniadau ac yn edrych ymlaen at ddechrau eu hastudiaethau yn ystod yr hydref.

"Mae'n anrhydedd i mi gael Bwrsariaeth Brian Large, fydd yn fy ngalluogi i ymgolli'n llwyr yn y cwrs MSc Cludiant a Chynllunio heb fod angen dal swydd ran-amser yn ystod fy astudiaethau. Mae'r flwyddyn academaidd o'n blaen yn addo bod yn gyffrous ac yn heriol ac rwyf i'n edrych ymlaen at adeiladu ar yr wybodaeth sydd gen i eisoes am gynllunio cludiant drwy fy astudiaethau israddedig a lleoliad gwaith blwyddyn o hyd gyda Transport for London.”

Cole Cornford

"Roeddwn wrth fy modd i glywed fy mod wedi derbyn Bwrsariaeth Brian Large ar gyfer fy ngradd Meistr, fydd yn ei gwneud yn bosibl i mi barhau â'm hastudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn rhoi cyfle i mi ddatblygu fy addysg mewn maes diddorol fel cynllunio cludiant."

Davide Bertaggia

"Rwyf wrth fy modd yn cael gwobr Cronfa Bwrsariaeth Brian Large, sy'n hanfodol i'm galluogi i ddod yn gynllunydd cludiant BAME rhagorol. Bydd astudio'r radd hon yn chwarae rhan hanfodol i alluogi mwy o gynrychiolaeth i safbwyntiau BAME wrth gynllunio cludiant, gan alluogi mwy o ddefnydd, rhyddid a chyfle iddyn nhw."

Aleena Khan

Cydnabyddiaeth i ragoriaeth

Mae'r MSc mewn Cludiant a Chynllunio yn un o brif raglenni ôl-raddedig yr ysgol, ac yn uchel ei pharch am ei haddysgu'n seiliedig ar ymchwil. Fe'i hachredir gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol fel rhaglen meistr 'arbenigol' a'r Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant.

Dywedodd Dr Dimitris Potoglou, Cyfarwyddwr y Rhaglen: "Mae'n newyddion gwych mai ein myfyrwyr ni fydd yn derbyn tair o'r pedair bwrsariaeth Brian Large a ddyfarnwyd eleni. Mae'n dyst i'w gwybodaeth, eu galluoedd a'u hymrwymiad i ddatblygu ymarfer ac ysgolheictod ym maes cludiant a chynllunio. Rydym ni hefyd yn croesawu'r cadarnhad o ansawdd a thrylwyredd ein rhaglen.

"Hoffwn longyfarch Cole, Davide ac Aleena. Er y bydd eleni'n wahanol mewn sawl ffordd, rwyf i mor awyddus ag erioed i roi'r flwyddyn academaidd ar waith ac i weithio gyda nhw a'u cyd-fyfyrwyr."

Cwblhaodd Aleena, Cole a Davide eu hastudiaethau israddedig yn yr Ysgol yn ddiweddar, gan raddio o'r rhaglen BSc Cynllunio a Datblygu Trefol.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.