Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd ysgoloriaeth PhD

22 Ionawr 2021

Mae gan Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd gyfleoedd ysgoloriaeth PhD newydd i ymchwilwyr sydd am gyflawni eu huchelgeisiau academaidd ym meysydd daearyddiaeth a chynllunio.

Mae'r Ysgol yn ganolfan ar gyfer rhagoriaeth ymchwil ym meysydd daearyddiaeth ddynol, cynllunio, dylunio trefol a dadansoddi gofodol, gyda phortffolio amrywiol o ymchwil yn ymdrin â newid economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol a'r amgylcheddau adeiledig a naturiol.

Gyda ffocws ar effaith, mae'r Ysgol wedi chwarae rhan sylweddol wrth lunio dadleuon polisi perthnasol a dylanwadu ar agendâu rhyngwladol, gan gymryd rôl arweiniol mewn ymchwil ac ymholi academaidd sy'n gysylltiedig â datblygu, rheoli a chynaliadwyedd dinasoedd, rhanbarthau a gofodau gwledig.

Gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC ar gyfer Cymru, mae'r Ysgol yn gwahodd ceisiadau am astudiaeth PhD sydd ar gael i ddechrau ym mis Hydref 2021.

Mae ysgoloriaethau cyffredinol ym maes Daearyddiaeth Ddynol neu Gynllunio Amgylcheddol ar gael ochr yn ochr â rhaglen benodol dan oruchwyliaeth Dr Tom Smith a Dr Matluba Khan. Teitl y prosiect hwn yw 'Daearyddiaethau'r Awyr Agored Digidol: Dod â Mannau Dysgu Digidol ac Awyr Agored ynghyd yn Ysgolion Cynradd Cymru'.

Dewch o hyd i fanylion llawn am y prosiect hwn gan gynnwys cyllid a gwybodaeth gymhwysedd yn FindaPhD.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais i bob ysgoloriaeth yw 3 Chwefror 2021.

Rhannu’r stori hon