Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil Caerdydd a Bryste ar y cyd i Niwrowyddoniaeth

Dechreuodd ein gwaith ar y cyd â Phrifysgol Bryste ym mis Ebrill 2006, a hynny yn fenter i alluogi mwy o rannu gwybodaeth a chydweithio rhwng ein cymunedau niwrowyddoniaeth.

Gwaith cyfredol ar cyd

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi ymgymryd â sawl prosiect newydd ar y cyd, gan gynnwys:

Cefndir

I ddechrau, canolbwyntiodd ein gwaith ar y cyd ar sefydlu grwpiau ffocws arbenigol mewn meysydd amrywiol o niwrowyddoniaeth, gan gynnwys seiciatreg, niwroddelweddu, sgitsoffrenia, niwrowyddoniaeth systemau, a sail fiolegol anhwylderau iechyd meddwl.

Ffurfiwyd y grwpiau hyn drwy gyfarfodydd ar y cyd, ymweliadau cyfnewid â labordai, teithiau o amgylch ein Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd (CUBRIC) a'r Ganolfan MRI Arbrofol (EMRIC), yn ogystal â diwrnodau hyfforddi a gweithgareddau cydweithredol eraill. Arweiniodd y grwpiau ffocws hyn at nifer o brosiectau ar y cyd, ceisiadau grant, ac ysgoloriaethau PhD, diwrnodau hyfforddi, gweithdai, ac arddangosfa dridiau rhyngwladol a groesawodd dros 150 o gynrychiolwyr.

Datblygiad nodedig arall yw Diwrnod Niwrowyddonydd Gyrfa Cynnar GW4, sydd wedi’i gynnal ym Mryste (2007, 2010, 2015), Caerdydd (2008, 2012, 2017), a Chaerwysg (2019). Trefnwyd y digwyddiad hwn gan bwyllgor a oedd yn cynnwys niwrowyddonwyr ifanc o'r ddwy brifysgol. Roedd wedi helpu i feithrin perthynas waith gynhyrchiol a chydweithio parhaus, yn ogystal â denu cryn sylw gan gannoedd o niwrowyddonwyr ifanc o bob rhan o'r DU.

Er mwyn annog cydweithio pellach rhwng ein prifysgolion, cyflwynwyd cynllun gwobrau teithio, gyda grantiau gwerth hyd at £500 ar gael. Roedd y grantiau hyn yn galluogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i fynychu cynadleddau rhyngwladol — gan ehangu eu golwg ar y byd a chaniatáu iddynt adeiladu cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr.

Y Dyfodol

Wrth inni gychwyn cyfnod newydd o ddatblygiadau niwrowyddonol, mae cynnal ac ehangu ein perthynas â Phrifysgol Bryste yn mynd yn fwyfwy hanfodol. Drwy gyfuno meddyliau academaidd a chlinigol gwych ein sefydliadau ein nod yw sicrhau mai rhanbarth de Cymru/Gorllewin Lloegr fydd safon aur ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl y DU.

Digwyddiadau i ddod

Cyfle i Ymchwilwyr y GW4 ar ddechrau eu gyrfa yw’r Diwrnod Niwrowyddonwyr ar ddechrau eu Gyrfa i ddod at ei gilydd a thrafod gyda’i gilydd.