Ewch i’r prif gynnwys

Grant o £3.6 miliwn i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd astudio’r cysylltiad rhwng problemau iechyd corfforol a meddyliol

16 Gorffennaf 2021

two people walking along the coast

Mae tîm ymchwil o Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig wedi derbyn cyllid sylweddol ar gyfer prosiect cydweithredol rhyngwladol.

Bydd y grant o £3,632,000 gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd yn galluogi timau ymchwil ledled y DU a Denmarc i weithio gyda'i gilydd dros y pedair blynedd nesaf fel rhan o ymchwil gydweithredol LIfespaN i gydafiechedd (LINC).

Mae cydafiechedd yn cyfeirio at bresenoldeb mwy nag un cyflwr iechyd cronig yn yr un unigolyn.

Bydd timau ymchwil o Brifysgol Bryste, Prifysgol Leeds, Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Priffddinas-Ranbarth Denmarc, Prifysgol Roskilde, Prifysgol Caerwysg a Sefydliad Wellcome Sanger yn cydweithredu ar y prosiect.

Dywedodd yr Athro Marianne van den Bree o Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, a fydd yn arwain ar y Gydweithfa Ymchwil, am y grant:

Rwy'n hynod falch o gael y cyfle i weithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol gwych rydym wedi'i ddwyn ynghyd o dan ymbarél LINC. Gall LINC gymryd camau breision wrth ddeall achosion genetig ac amgylcheddol cydafiechedd ym maes iechyd corfforol a meddyliol.
Marianne van den Bree Professor, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

"Bydd ein hadnodd data unigryw yn caniatáu inni olrhain datblygiad cydafiechedd trwy gydol oes a nodi ffactorau yn gynnar mewn bywyd sy'n cynyddu'r risg o ddatblygu cydafiechedd anhwylderau mewnol a chardiometabolig yn ddiweddarach."

Bydd y Gydweithfa Ymchwil yn astudio pam mae pobl ag anhwylderau iechyd meddwl yn fwy tebygol o ddatblygu cyflyrau iechyd corfforol ac i'r gwrthwyneb.

Bydd yr ymchwil yn taflu goleuni ar rai o'r ffactorau sy'n achosi i blant fod ag anghenion addysgol arbennig ac anabledd (AAAA) ac yn helpu i nodi dulliau i gefnogi'r plant hyn mewn ysgolion i wella eu hiechyd yn y tymor hir.

Ychwanegodd yr Athro Mark Mon-Williams o Brifysgol Leeds, Cyd-ymchwilydd ac Arweinydd Effaith, “Mae LINC yn cynnig cyfle anhygoel i gysylltu gwasanaethau iechyd ac addysg yn gynnar ym mywyd plentyn fel y gall fwynhau gwell iechyd corfforol a meddyliol dros y tymor hir. Mae'r ymchwil yn agor y posibilrwydd cyffrous o chwyldroi'r gefnogaeth a ddarperir i blant ag AAAA a thrawsnewid y gwasanaethau a ddarperir i blant a phobl ifanc.”

Bydd LINC yn canolbwyntio ar gydafiechedd rhwng anhwylderau mewnol, megis iselder a gorbryder, ac anhwylderau cardiometabolig, megis clefyd cardiofasgwlaidd a diabetes math 2, ac yn archwilio'r ffactorau bywyd cynnar y gellir eu newid i atal y clefydau hyn.

Bydd y prosiect yn dwyn ynghyd hyd at 760,000 o gyfranogwyr. Mae'r carfanau hyn yn amrywiol eu natur ac yn cynnwys pobl o wahanol oedrannau, o blant i oedolion, o wahanol gefndiroedd ethnig ac economaidd-gymdeithasol.

Dilynir iechyd cyfranogwyr dros amser, gyda gwybodaeth ar gael o nodiadau meddygol gofal sylfaenol ac eilaidd, cyfweliadau astudiaethau, holiaduron, ac asesiadau yn y labordy, megis lefelau pwysedd gwaed a lefelau glwcos a lipid.

Caiff gwybodaeth gyfoethog am ffactorau risg ac amddiffynnol ei chael yn rheolaidd hefyd ar amddifadedd neu brofiadau dirdynnol. Bydd argaeledd DNA ar draws pob un o'r pum carfan yn caniatáu’r astudiaeth o rôl genynnau mewn datblygiad cydafiechedd.

Nod LINC yw gwella dealltwriaeth o ffactorau sy'n cyfrannu at gamau risg cyn-glinigol cynnar cydafiechedd ymysg pobl ifanc. Gall hyn lywio strategaethau atal yn gynnar mewn bywyd gyda'r nod o leihau'r risg ddiweddarach o ddatblygu cydafiechedd.

Disgwylir i'r ymchwil roi mewnwelediadau newydd i pam mae rhai pobl yn datblygu cydafiechedd ym maes iechyd corfforol a meddyliol, tra nad yw eraill yn gwneud hynny, ac egluro gwahaniaethau mewn risg rhwng dynion a menywod, pobl o wahanol gefndiroedd ethnig, a phobl o wahanol safleoedd economaidd-gymdeithasol. Gall y mewnwelediadau hyn gyfrannu at ymdrechion i leihau anghydraddoldebau iechyd mewn cymdeithas.

Dyfarnwyd y grant ar ôl proses dau gam, a derbyniwyd cyllid cychwynnol i alluogi adeiladu'r Gydweithfa Ymchwil ym mis Ebrill 2020. Bydd y dyfarniad newydd ar raddfa fawr yn cychwyn yn nhymor yr hydref 2021.

Rhannu’r stori hon