Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid gwerth £2 miliwn ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl a niwroddatblygiadol

29 Mehefin 2022

Image of genes

Bydd cyllid newydd yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o fwtaniadau genetig yn rhan o gyflyrau iechyd meddwl a niwroddatblygiadol.

Dyfarnwyd cyllid gwerth £2 miliwn i Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol i wella dealltwriaeth o achosion genetig nifer o gyflyrau iechyd meddwl.

Mae ymchwil i sail enetig cyflyrau iechyd meddwl a niwroddatblygiadol yn cynnig gobaith o ddatblygu triniaethau newydd. Mae newidiadau bach yn y strwythur genetig, a elwir yn amrywiadau rhif copi, yn cyfrannu'n sylweddol at y risg o ddatblygu cyflyrau niwroddatblygiadol, gan gynnwys awtistiaeth a sgitsoffrenia.

Dywedodd yr Athro Jeremy Hall, Cyfarwyddwr Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd: "Bydd astudio cleifion sy’n destun y newidiadau genetig hyn yn cynnig cyfleoedd newydd i ddeall newidiadau yn yr ymennydd sy'n gysylltiedig â’r risg o ddatblygu’r cyflyrau hyn.

"Ein nod yw ymchwilio i sut mae rhai o'r amrywiadau rhif copi mwyaf cyffredin yn effeithio ar swyddogaeth yr ymennydd. Rydym yn credu bod y gwahanol fwtaniadau genetig hyn yn cael effeithiau cyffredin ar swyddogaeth yr ymennydd drwy newid beth mae rhai mathau o gelloedd ymenyddol yn ei wneud."

Bydd yr ymchwil yn dog â gwyddonwyr o bob rhan o Brifysgol Caerdydd, o’r Ysgol Meddygaeth, yr Ysgol Seicoleg ac Ysgol y Biowyddorau, ynghyd. Bydd cydweithwyr o Brifysgol Bryste a Choleg Prifysgol Llundain hefyd yn gweithio ar y cyd â'r Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl i ddatgelu gwybodaeth newydd hanfodol.

"Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae amrywiadau rhif copi’n effeithio ar swyddogaeth niwronol ac yn lleihau cysylltedd yr ymennydd. Mae’n gam pwysig tuag at wella dealltwriaeth o achosion biolegol cyflyrau niwroddatblygiadol, gyda'r nod o wella pa mor gynnar y maent yn cael eu diagnosio a’u trin,” meddai’r Athro Jeremy Hall.

Rhannu’r stori hon