Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod Niwrowyddonwyr ar ddechrau eu Gyrfa 2024 y GW4

Dydd Mercher, 23 October 2024
Calendar 10:00-18:30

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Prifysgol Bryste fydd yn cynnal y digwyddiad mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Caerwysg (GW4) ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy’n trefnu Diwrnod Niwrowyddonwyr ar ddechrau eu Gyrfa bob dwy flynedd ac ar eu cyfer nhw mae’r digwyddiad. Yn eu plith mae myfyrwyr israddedig, darlithwyr newydd, cymrodyr ymchwil clinigol a thechnegwyr sy’n arbenigo unrhyw agwedd ar niwrowyddoniaeth ac mae'n rhoi cyfle i’r ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa o'r pedwar sefydliad a thu hwnt ddod at ei gilydd i drafod gyda’i gilydd.


Bydd y rhaglen yn cynnig cyfuniad o gyflwyniadau ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, yn rhai llafar a phosteri fel ei gilydd, a hynny’n seiliedig ar broses gystadleuol cyflwyno crynodebau. Bydd nifer o arddangoswyr masnachol hefyd ar gael drwy gydol y dydd i drafod eich gofynion ymchwil. 

Nod y digwyddiad yw:

  • bod y sawl sy’n dod i’r digwyddiad yn cael gweld ystod eang o ymchwil ar niwrowyddoniaeth
  • cael mewnbwn gan niwrowyddonwyr o ran ymchwil bellach
  • cynyddu gwybodaeth am GW4 a dealltwriaeth ohoni
  • dysgu am lwybrau gyrfaol gwahanol
  • annog a hwyluso cyfleoedd i rwydweithio a chydweithio
  • technegau ymarfer cyflwyniadau

Pwy ddylai fynd
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bawb sy'n cynnal ymchwil ym mhob agwedd ar niwrowyddoniaeth neu sydd â diddordeb yn y rhain, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig mewn unrhyw ffordd i’r canlynol: niwrowyddoniaeth foleciwlaidd, epidemioleg, y gwyddorau seicolegol, caethiwed, anhwylderau symud a chyflyrau niwrolegol eraill, heneiddio, rhythmau circadaidd, niwrowyddoniaeth ymddygiadol a gwybyddol, cwsg, golwg, polisi, gofal cymdeithasol, moeseg, modelau sy’n anifeiliaid, addysgeg, cynnwys cleifion a’r cyhoedd, ymgysylltu â'r cyhoedd, a phopeth yn y canol.  

Rydyn ni’n annog pawb ar bob cam gyrfaol i gymryd rhan, boed yn fyfyrwyr israddedig neu Brif Ymchwilwyr, ac yn estyn croeso cynnes iawn i gynrychiolwyr nad ydyn nhw’n perthyn i’r un o brifysgolion y GW4. 

Siaradwyr
Rydyn ni’n falch o gadarnhau y bydd y siaradwyr canlynol yn siarad ar y diwrnod:

Cyflwyno crynodebau

Cofrestru

  • Mae cofrestru cyffredinol yn costio £37.50 ac yn cynnwys:
    • cludiant bws (preifat) am ddim i Fryste ac oddi yno i gynrychiolwyr cofrestredig rhwng prifysgolion y GW4 a Bryste
    • lluniaeth, cinio bwffe a derbyniad diodydd
    • Mynediad llawn i'r rhaglen cyflwyniadau llafar a’r posteri yn ogystal â'n partneriaid diwydiannol
  • Mae myfyrwyr israddedig a myfyrwyr meistr a addysgir yn gymwys i dalu ffi gofrestru gostyngol, sef £20
  • Cofrestrwch yn siop ar-lein Prifysgol Bryste (caiff y sawl sy’n cymryd rhan o Brifysgol Bryste dalu gan ddefnyddio cyfrif mewnol, ond sicrhewch fod gennych ganiatâd y Prif Ymchwilydd yn gyntaf!)
  • Cofrestru’n cau erbyn 25 Medi 2024

Y Partneriaid

  • Prifysgol Bryste
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Caerfaddon
  • Prifysgol Caerwysg

Noddwyr
Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i'r canlynol am eu cefnogaeth i'r digwyddiad hwn:

  • Stratech
  • Abcam
  • Y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl
  • Bristol Neuroscience
Neuadd Fawr
Adeilad Goffa Wills, Prifysgol Bryste
Queens Rd
Bryste
BS8 1RJ

Rhannwch y digwyddiad hwn