Ewch i’r prif gynnwys

Transition

Rydym yn cefnogi'r pontio teg hirdymor at economi wyrddach.

Ni fydd sero net yn cael ei gyflawni dros nos – bydd pontio’n digwydd, dros fisoedd a blynyddoedd, o'r sefyllfa bresennol i economi newydd, wyrddach.  Sut ydyn ni'n darparu ynni dibynadwy, fforddiadwy ac amgylcheddol gyfrifol i sicrhau pontio’n deg ar gyfer pawb, a sut allwn ni helpu’r byd diwydiant i ddatgarboneiddio eu busnesau a hebrwng y gymdeithas pan fydd angen i ymddygiadau newid?

Rydym yn gweithio'n agos gyda’r byd diwydiant, busnesau a llunwyr polisïau, gan hyrwyddo'r pontio i ffyrdd newydd o weithio er mwyn diwallu anghenion sy'n newid yn barhaus. Dim ond os caiff hyn ei roi ar waith gan y byd diwydiant a’r gymdeithas ar y cyd, gan oresgyn rhwystrau technolegol a chymdeithasol, risgiau, a'r ddirnadaeth o ran risgiau y bydd ein hymchwil yn cael effaith ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.