Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestr PARC
Menter ar y cyd rhwng y Brifysgol a byd diwydiant ydym ni, gyda'r nod o gyflawni ymchwil o'r radd flaenaf sy'n cael effaith ym maes logisteg a rheoli gweithgynhyrchu. Rydym yn llenwi'r bwlch rhwng theori ac arferion yn y meysydd hyn er budd yr economi, yr amgylchedd a'r gymdeithas.
Rydym yn cydweithio i fynd i'r afael â phroblemau cyfoes pwysig ym maes logisteg a rheoli gweithgynhyrchu.
Rydym yn arbenigo mewn rhagweld cadwyn gyflenwi, rheoli rhestri eiddo, gwyddorau trafnidiaeth, modelu cadwyni cyflenwi, modelu busnes logisteg, ac economeg cludiant.
Newyddion diweddaraf
Rydym yn cysylltu ag arweinwyr diwydiannol i drafod eu safbwyntiau ynghylch beth sy’n digwydd i fyd cadwyni cyflenwi.
Rydym yn griw cymysg o arbenigwyr mewn sawl maes o Brifysgol Caerdydd a diwydiant.