Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau

Gwythïen o byrit, calcopyrit a bornit (yn cynnwys platinwm a thelwriwm a metelau eraill) mewn ymwthiad porffyri syenit o Colorado, UDA.

Rydym yn deall yr adnoddau sydd ar gael i ni ar gyfer cyflawni sero net.

Mae pob rhan o'n bywydau o ddydd i ddydd yn dibynnu ar amrywiaeth o adnoddau naturiol. Maent yn pweru ein heconomi ac yn cynnal ein cartrefi. Ond mae'r galw byd-eang cynyddol am adnoddau y mae pen draw iddynt, ynghyd â phryderon amgylcheddol ynghylch sut y defnyddir yr adnoddau hyn a'r allyriadau sy'n deillio o hynny, a hefyd pryderon ynghylch dyrannu anwastad, yn pwysleisio’r angen am reoli, defnyddio, cadwraeth ac arloesedd, sy’n gyfrifol; hyn i sicrhau bod yr adnoddau dan sylw ar gael i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Mae'n bwysig deall yr adnoddau sydd ar gael i ni wrth gyflawni'r her sero net gan ofyn sut rydym yn dod o hyd i adnoddau daearegol a'u hechdynnu mewn modd cyfrifol, sut y gallwn symud at economi gylchol gan amnewid adnoddau sy'n brin neu sy’n dod o darddiad dadleuol â dewisiadau amgen cynaliadwy neu'r deunyddiau hynny yr ystyriwyd eu bod yn wastraff yn flaenorol, a sut rydym yn sicrhau defnyddio tir, dŵr ac ynni mewn modd teg a chynaliadwy.