Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn darparu'r atebion ar gyfer dyfodol sero net.

Gellir dadlau mai'r angen i leihau nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu creu gan bobl gan sicrhau sero net yw'r her fwyaf a'r mwyaf brys sy’n wynebu ein byd ers y chwyldro diwydiannol.

Mae rhan o'r llwybr at sero net wedi'i mapio, ond mae dybryd angen ehangu potensial ynni adnewyddadwy, lleihau a dal allyriadau carbon, a meithrin economi fwy cynaliadwy, gan seilio hyn ar yr ymchwil ddiweddaraf.

Mae ein sefydliad yn llunio ein dyfodol cynaliadwy drwy ddod â'r meddyliau ymchwil mwyaf talentog, blaengar ac amlddisgyblaethol ynghyd. Rydym yn gweithio mewn ffordd ryngddisgyblaethol ar draws meysydd sy’n cynnwys y gwyddorau ffisegol, peirianneg, yr amgylchedd adeiledig, y gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a'r dyniaethau, y biowyddorau a’r geowyddorau, a chynllunio.

Mae ein hymchwil wedi'i seilio ar dri maes allweddol – deall yr adnoddau sydd ar gael i ni at ddibenion cyrraedd sero net; gofyn a oes modd lliniaru effeithiau ar yr hinsawdd trwy ddefnyddio gwyddoniaeth a pheirianneg; a chefnogi'r pontio hirdymor i economi wyrddach.

Rydym yn darparu’r arloesi a chreu’r dechnoleg nad yw ar gael eto. Rydym yn ymgysylltu â’r gymdeithas, y diwydiant a’r llywodraeth er mwyn nodi’r ffordd orau o wneud hyn.