Ewch i’r prif gynnwys

Staff eraill GIG Cymru

Mae gennym gynllun aelodaeth Cymuned ar gyfer staff GIG Cymru nad ydynt yn cael eu cyflogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro neu Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW).

Drwy'r cynllun aelodaeth hwn gallwch:

  • cewch fenthyg dwy eitem ar unrhyw un adeg o'n casgliadau pythefnos a phedair wythnos o unrhyw lyfrgell ym Mhrifysgol Caerdydd
  • sgwrsio ag aelod o staff y llyfrgell gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein Sgwrsio Llyfrgell
  • defnyddio LibrarySearch i ddod o hyd i eitemau yn ein catalog llyfrgell ac i gael  mynediad i’ch cyfrif llyfrgell

Os ydych yn aelod llyfrgell iechyd GIG Cymru ac eisiau benthyg llyfr nad yw ar gael yn eich llyfrgell, holwch eich llyfrgell gartref i gael gafael ar y llyfr ar eich cyfer.

I gael rhagor o fanylion am y cynllun hwn, cysylltwch â cochraneliby@caerdydd.ac.uk