Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarniadau Addysgol yn Sierra Leone

Dechreuodd ein partneriaeth gyda Phrifysgol Sierra Leone yn 1999. Sefydlwyd cronfa addysgol yn 2001 i gefnogi plant ysgol yn y brifddinas, Freetown.

Grŵp o fyfyrwyr Ysgol Uwchradd Iau yn y seremoni wobrwyo yn 2022
Grŵp o fyfyrwyr Ysgol Uwchradd Iau yn y seremoni wobrwyo yn 2022

Er bod gan bob plentyn yn Sierra Leone hawl bellach i addysg am ddim mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, mae’n rhaid i deuluoedd ddarparu gwisg ysgol, bagiau, esgidiau, tocyn teithio a chinio i’w plant/wardiau.

Mae hyn yn golygu nad yw teuluoedd yn gallu fforddio anfon eu plant i’r ysgol. Dim ond un o bob pum plentyn sy’n cael y cyfle ar hyn o bryd i gwblhau ei addysg yn yr ysgol uwchradd, yn enwedig gyda’r gyfradd chwyddiant uchel yn y wlad. Mae’r gwobrau addysgol hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae’r gwobrau’n mynd yn uniongyrchol i’r teuluoedd gyda phob myfyriwr yn derbyn hyd at £40, yn ddibynnol ar y flwyddyn astudio. Mae gwobrau’n cael eu blaenoriaethu ar gyfer plant sydd wedi cwblhau eu haddysg gynradd mewn ysgol a ariennir gan y wladwriaeth ac na fyddant fel arall o bosib yn cael y cyfle i fynychu neu gwblhau addysg yn yr ysgol uwchradd.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich haelioni yn fy nghefnogi dros y blynyddoedd diwethaf. Trwy gefnogaeth ariannol eich Sefydliad gwych, llwyddais i ysgrifennu Arholiadau Tystysgrif Uwchradd Hŷn Gorllewin Affrica, lle cefais bum credyd yn y gwahanol bynciau gwyddoniaeth a gynigiais. Trwy eich cefnogaeth ariannol yn talu am fy ngwersi ychwanegol a chinio dyddiol, roeddwn yn gallu canolbwyntio ar fy ngwaith ysgol.

Esther E S W Scott

Sylwer: Mae Esther eisiau datblygu ei haddysg drwy ymrestru â Phrifysgol Feddygol i astudio meddygaeth a dod yn Feddyg.

Mae’r wobr hon wedi bod o gymorth mawr i mi ar ôl i mi golli fy nhad, lle bu’n rhaid i mi aros gyda fy modryb nad yw’n gweithio, ond drwy eich ymyriad, roeddwn yn gallu mynychu dosbarthiadau ychwanegol mewn Gwyddor Iechyd, Cemeg, Bioleg etc, gan fy mod yn awyddus i fod yn nyrs ac achub bywydau.

Margaret Danga

Rwy’n ferch ifanc sy’n frwd dros addysg, sy’n frwd i gael addysg ac i fod yn fenyw annibynnol ac o sylwedd yn y dyfodol, yr ydych wedi cyfrannu’n fawr ato ac rwy’n ddiolchgar iawn. Fy mreuddwyd yw dod yn gyfreithiwr.

Wilmela O Showers

Cofrestrwyd y gronfa fel Gwobrau Addysg yn Sierra Leone (EASL) gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn 2010.

Myfyriwr Ysgol Uwchradd Hŷn yn derbyn ei siec yn 2022
Myfyriwr Ysgol Uwchradd Hŷn yn derbyn ei siec yn 2022

Digwyddiadau

Ein nod yw trefnu digwyddiadau codi arian bob blwyddyn i godi arian ar gyfer EASL a byddem wrth ein bodd yn clywed gan unrhyw un sydd ag awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau, neu gynigion i helpu gyda nhw.

Rhoi

Croesewir rhoddion unrhyw bryd drwy DonorBox.

Os nad ydych yn aelod o restr bostio’r cefnogwyr ac rydych yn awyddus i ymuno, rhowch wybod i ni. Hoffem anfon newyddion i chi am ddigwyddiadau sydd ar y gweill a’r myfyrwyr rydych yn eu cefnogi.

Cysylltwch â ni

Alison Weightman