Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Rydym yn Ysgol sy'n cael ei harwain gan ymchwil gydag enw da yn rhyngwladol am ymchwil rhagorol a dysgu o safon uchel.
Mae ymuno ag Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig yn golygu gweld y byd o safbwynt rhyngddisgyblaethol go iawn. Ymhlith ein hopsiynau ôl-raddedig mae ystod o themâu sy’n cynnwys polisi cyhoeddus, agweddau cyfreithiol ar ymarfer meddygol, hawliau dynol, llywodraethu, cysylltiadau rhyngwladol a chyfreithiau eglwysig.