Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau

Rydym yn cynnig y cyfleusterau e-ddysgu diweddaraf a llyfrgell sy'n cynnwys adnoddau perthnasol i'ch astudiaethau. Mae hyn yn sicrhau bod gennych amgylchedd astudio o'r radd flaenaf.

Disgrifiodd Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Lyfrgell y Gyfraith Prifysgol Caerdydd yn "rhagorol". Mae ganddi dros 100,000 o gyfrolau a thros 279 o gyfnodolion ac adroddiadau cyfreithiol. Wedi'i lleoli yn Llyfrgell y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, gyferbyn ag Adeilad y Gyfraith, mae'n gyfleus iawn hefyd.

Students in the school of Law and Politics
Students in the school of Law and Politics

Mae'r casgliadau'n cynnwys deunydd dysgu ar gyfer cyrsiau israddedig a gradd meistr yn y gyfraith. Mae'r casgliadau ymchwil yn adlewyrchu diddordebau'r Ysgol:

  • cyfraith a chyfiawnder troseddol
  • eiddo deallusol
  • cyfraith yr amgylchedd
  • cyfraith morol a llongau
  • cyfraith teulu a chyfiawnder
  • astudiaethau meddygol-gyfreithiol
  • cyfraith yr eglwys
  • y broses sifil gyfreithiol

Yn ogystal mae cronfeydd data electronig a systemau adennill sy'n cynnwys westlaw, Lexis-Nexis a Hein On-Line yn eich galluogi i gael gafael mewn nifer o adroddiadau a chyfnodolion adnabyddus eraill.

Mae staff Llyfrgell y Gyfraith wrth law i gynnig cymorth ymchwil arbenigol, yn cynnwys hyfforddiant gweithdai ac un i un mewn chwilio gwybodaeth ac ymchwil llenyddol drwy gyfryngwr.

Ceir casgliadau Cyhoeddiadau Swyddogol y DU a deunydd y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Chyfraith y Môr yn Llyfrgell y Gyfraith hefyd.