Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddio ymchwil i alluogi merched i siarad am iechyd rhywiol ac atgenhedlu

7 Mawrth 2024

A young girl in Africa smiles at the camera infront of a class of peers.
Credyd llun: Plan International

Mae darlithydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi ymuno ag elusen ryngwladol flaenllaw i blant er mwyn darparu rhaglen radio gyda'r nod o ysgogi sgyrsiau am hawliau merched yn Benin, Gorllewin Affrica.

Mae Dr Rosie Walters yn gweithio gyda Plan International ar brosiect sy'n seiliedig ar ymchwil o'u hastudiaeth Real Choices Real Lives (RCRL), sydd wedi bod yn dilyn bywydau 142 o ferched ers eu geni yn 2006. Mae'r merched yn byw ar draws tri chyfandir mewn naw gwlad (Benin, Brasil, Cambodia, Gweriniaeth Dominica, El Salvador, Ynysoedd y Philippines, Togo, Uganda a Fietnam). Mae cyfweliadau manwl rheolaidd gyda'r merched a'u rhoddwyr gofal yn archwilio agweddau a normau ar sail rhywedd ym mhob cymuned a sut mae'r rhain yn effeithio ar fywydau beunyddiol merched. Mae RCRL wedi casglu data ar amrywiaeth eang o bynciau a themâu - gan gynnwys addysg (a'i pherthynas â newid yn yr hinsawdd), iechyd (gan gynnwys iechyd a hawliau rhywiol ac atgenhedlu), newyn, gwarchodaeth a thrais, actifiaeth merched a chyfranogi mewn mannau dinesig y ffyrdd y mae merched yn herio normau rhywedd, a llawer o bynciau eraill. Bydd yr astudiaeth yn parhau i gasglu data hyd nes y bydd y merched i gyd yn 18 oed yn 2024.

Yn benodol, canfu dadansoddiad o ddata'r astudiaeth yn 2021 fod merched yn Benin yn awyddus i gael mwy o wybodaeth am eu cyrff a'u lles gan eu rhieni a'u gofalwyr. Fodd bynnag, roedd rhieni'n teimlo y dylai merched fod yn dysgu am ryw a pherthnasoedd yn yr ysgol neu yn yr eglwys.  Dangosodd canfyddiadau ymchwil hefyd fod rhieni, ar draws naw gwlad yr astudiaeth, yn teimlo mai'r ffordd orau o amddiffyn merched rhag trais rhywiol oedd gosod cyfyngiadau llym ar eu hymddygiad, tra bod y merched eu hunain am i rieni wneud mwy i fynd i'r afael ag ymddygiadau niweidiol dynion a bechgyn.

Eglura Dr Walters, "Roedden ni'n gallu gweld yn glir o'r data bod merched yn awyddus i gael sgyrsiau gyda'u teuluoedd am berthnasoedd iach. Roedden nhw'n awyddus i ddeall pethau fel rhyw a mislif, ond yn hytrach roedd eu rhieni'n tueddu i ddweud wrthyn nhw am gadw draw o fechgyn. Gyda'r prosiect hwn, roedden ni am grynhoi'r dystiolaeth honno mewn ffordd y gallai pobl ifanc eu hunain ei defnyddio i ysgogi sgyrsiau am eu hawliau a'u lles."

Yn 2023, dyfarnwyd arian i Dr Walters a Dr Keya Khandaker o Plan International gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau i wneud hynny'n union. Datblygwyd canfyddiadau eu hymchwil yn straeon ac yna recriwtiwyd pobl ifanc gan arbenigwyr tîm Plan International yn Benin i ddatblygu'r straeon yn sgriptiau radio. Roedd y darllediad terfynol yn cynnwys golygfeydd wedi'u recordio, trafodaethau gyda phobl ifanc a sesiwn ffôn gyda gwrandawyr, gan archwilio hawliau rhywiol a lles merched. Dangosodd adborth gan oedolion a phobl ifanc eu bod wedi sicrhau gwell dealltwriaeth o'r pwnc a'u bod am gael mwy o sgyrsiau amdano yn y dyfodol. Elfen allweddol o'r prosiect yw ei fod wedi elwa o fod yn seiliedig ar brofiadau merched, sy'n deillio o dystiolaeth RCRL, ac yn cael ei lywio gan bobl ifanc wrth iddynnhw ysgrifennu'r golygfeydd radio, gan sicrhau bod perchnogaeth a pherthnasedd clir yn perthyn i'r rhaglen radio o ran y gymuned leol.

Mae'r ymchwilwyr bellach wedi llunio nodyn canllaw, sy'n trafod y gwersi a ddysgwyd yn ystod y prosiect a sut y gellid defnyddio'r dull hwn eto, gan droi tystiolaeth ymchwil yn rhaglenni hawliau merched.

Rhannu’r stori hon