Ewch i’r prif gynnwys

Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Caerdydd yn cael ei henwi fel y gorau yn y DU

4 Ebrill 2024

Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Caerdydd Winky Yu gyda Robbie Burke, cynrychiolydd Barbi Global, noddwr Gwobr Llywydd Gorau Cymdeithas y Gyfraith. Credyd llun: Law Careers.Net
Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Caerdydd Winky Yu gyda Robbie Burke, cynrychiolydd Barbi Global, noddwr Gwobr Llywydd Gorau Cymdeithas y Gyfraith. Credyd llun: Law Careers.Net

Yn ddiweddar enwyd Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Prifysgol Caerdydd yn Llywydd Gorau Cymdeithas y Gyfraith yn y DU!

Enwyd Winky Yu, sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio’r gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, yn Llywydd Gorau Cymdeithas y Gyfraith yng Ngwobrau Cymdeithas y Gyfraith Careers.Net ar 14 Mawrth a gynhaliwyd yn Neuadd Cymdeithas y Gyfraith yn Llundain yn Chancery Lane.

Mae Winky wedi bod yn ymwneud â Chymdeithas y Gyfraith fel aelod pwyllgor ers dwy flynedd.  Cyn hynny, hi oedd y Swyddog Cystadlaethau ac yn ystod y cyfnod hwnnw cododd dros £650 drwy gystadleuaeth ymryson i godi arian, ynghyd â chystadlaethau ymryson eraill, a gweithdai. Defnyddiwyd yr arian i gefnogi aelodau o'r gymuned yng Nghaerdydd sy'n cael anhawster i gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol. Bu hefyd yn cynorthwyo i sefydlu Cymdeithas Darpar Fargyfreithwyr.

Fel Llywydd eleni, mae Winky wedi sicrhau nawdd gan bob un o'r pum cwmni ‘magic circle’, sy’n ddigyffelyb i’r Gymdeithas. Cyn i'w thymor ddechrau, bu Winky'n cysylltu ac yn negodi gydag amrywiaeth o sefydliadau i gasglu arian i'r Gymdeithas, fel y gallai aelodau fynychu digwyddiadau am gost is. Arweiniodd hyn at dros £10,000 mewn arian nawdd, a oedd yn gwella cyllid y Gymdeithas yn fawr nid yn unig ar gyfer eleni, ond ar gyfer y blynyddoedd academaidd i ddod hefyd.

Mae Winky wedi ymrwymo i feithrin perthynas dda ag aelodau'r Gymdeithas, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, y Brifysgol, a sefydliadau allanol. O dan ei harweinyddiaeth, mae’r Gymdeithas wedi recriwtio dros 600 o aelodau ac wedi cyflwyno adran i gydnabod elusennau yn eu cylchlythyr bob yn ail wythnos i ledaenu ymwybyddiaeth o amrywiaeth o bynciau gan gynnwys niwroamrywiaeth a rhoi gwaed. Gyda chefndir rhyngwladol y Llywydd, cynhaliodd Cymdeithas y Gyfraith ddigwyddiadau diwylliannol, megis cinio Blwyddyn Newydd Leuadol ac Iftar i Chwiorydd.

Derbyniodd Winky sawl enwebiad gan aelodau’r gymdeithas a chafodd ei chanmol am ei hagosatrwydd, ei hymroddiad, ei sgiliau trefnu a’r ffordd y mae wedi croesawu ei chyfoedion i’r grŵp.  Fe’i disgrifiwyd fel unigol “rhyfeddol” ac “arweinydd eithriadol amryddawn”

Wrth siarad am ei buddugoliaeth, dywedodd Winky, “Mae llwyddiant y gymdeithas yn dibynnu’n helaeth ar y lefel uchel o gydweithrediad rhwng aelodau’r pwyllgor. Rydym yn ymroddedig i ddarparu profiad cynhwysfawr i'n haelodau. Mae'n anrhydedd fawr derbyn y wobr ac yn gwneud i mi deimlo’n wirioneddol ostyngedig. Mae bod yn Llywydd cymdeithas fawr yn anodd ac yn straen, ac mae'n rhaid i chi fod yn barod i ddelio â nifer o bethau ar unwaith. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth o’m hymdrech dros y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig fel myfyriwr rhyngwladol a myfyriwr prifysgol cenhedlaeth gyntaf.”

Mae Gwobrau Cymdeithas y Gyfraith Careers.Net yn agored i bob prifysgol yn y DU a’u nod yw amlygu a dathlu’r gwaith gwych y mae cymdeithasau ar gampysau ar hyd a lled y wlad yn ei wneud. Gall cymdeithas myfyrwyr y gyfraith fod yn bopeth i bawb; mae’n hwb cymdeithasol, yn fan lle gall aelodau wella a rhannu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r gyfraith a’r diwydiant cyfreithiol, lle i ddatblygu sgiliau, i gyfrannu at gymdeithas, i ddadlau, ac i gael hwyl.

Mae chwe chymdeithas sy’n ymwneud â’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n cynnwys Cymdeithas y Gyfraith, Cymdeithas y Cyfreithwyr Heb Ffiniau a Chymdeithas y Bar. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Undeb Myfyrwyr Caerdydd.

Rhannu’r stori hon