Ewch i’r prif gynnwys

Colli cyfleoedd cynnar i nodi terfysgwyr oherwydd diffygion yng nghyfreithiau rhannu data’r DU, yn ôl ymchwil y Brifysgol

23 Ebrill 2024

Llaw menyw yn defnyddio Ffôn Symudol

Mae gwendidau cynhenid ​​yng ngallu’r DU i gaffael gwybodaeth a’i chyfnewid er mwyn canfod achosion o dwyll ac ariannu terfysgaeth, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Wedi'i gyhoeddi yn y Journal of Business Law, aeth academyddion ati i drin a thrafod yr amgylchiadau a arweiniodd at dri ymosodiad terfysgol yn y DU, gan ddadansoddi dogfennau sydd ar gael i'r cyhoedd i amlygu gwendidau yn y camau dilynol a gaiff eu cymryd mewn achosion o dwyll ac ariannu terfysgaeth a amheuir.

Dywed academyddion fod yr ymchwil yn herio casgliadau a chanfyddiadau adolygiad y Tasglu Gweithredu Ariannol o lefel cydymffurfedd y DU â'i argymhellion rhannu data.

Dywedodd y prif awdur, yr Athro Nicholas Ryder, o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Twyll yw'r mecanwaith ariannu o ddewis ar gyfer arianwyr terfysgaeth; mae'n gyfleus, dydy e ddim yn denu gormod o sylw ac yn aml dydy e ddim yn cael ei ganfod. Mae ein canfyddiadau’n dangos nad yw’r DU yn cydymffurfio â safonau rhyngwladol sy’n ymwneud â rhoi gwybod am wybodaeth hanfodol, a’i rhannu. Mae strategaeth twyll a chyfreithiau gwrthderfysgaeth yn gweithio’n annibynnol ar ei gilydd ar hyn o bryd, gyda’r naill ddim yn cyfeirio at y llall. Felly mae’n rhaid i strategaeth dwyll y DU a chyfreithiau gwrthderfysgaeth gyd-fynd â’i gilydd yn well yn fater o frys.”

Mae canfyddiadau allweddol o’r papur yn dangos:

  • Yn 1995, cysylltodd CThEM sawl achos o dwyll a amheuir â Shahzad Tanweer, un o derfysgwyr digwyddiad Gorffennaf 2005, ond ni chafodd yr wybodaeth hon ei datgelu i’r Uned Cudd-wybodaeth Ariannol na Gwasanaeth Diogelwch a Chudd-wybodaeth y DU. Enillodd y grŵp sy’n gysylltiedig â Tanweer tua £8 biliwn o dwyll yn ymwneud â ThAW a budd-daliadau, ac anfonodd “1% o’i enillion, neu £80 miliwn i al-Qaeda”.
  • Er mwyn cyflawni’r ymosodiad terfysgol yn Arena Manceinion yn 2017, defnyddiodd Salman Abedi fenthyciadau myfyrwyr a’i grant cynhaliaeth. Mae ymchwilwyr yn nodi nad yw’r Rheoliadau Gwyngalchu Arian yn berthnasol i sefydliadau addysg uwch, dim ond y sector a reoleiddir, ac mae gan sefydliadau addysg uwch rwymedigaeth gyfreithiol gyfyngedig i roi gwybod i’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol am unrhyw amheuon o dwyll neu ariannu terfysgaeth.
  • Cafodd ymchwiliad ei gynnal i un o’r terfysgwyr a fu’n rhan o’r ymosodiadau ar Bont Llundain ym mis Mehefin, 2017, Khuram Butt, a chafodd ei arestio ar amheuaeth o roi gwybod am weithgarwch twyllodrus ar gam (£3,300) ar dri chyfrif banc ym mis Hydref 2016. Ond cafodd penderfyniad ei wneud i beidio â'i erlyn am y troseddau cyntaf hyn.

Mae ymchwilwyr wedi gwneud nifer o argymhellion ar gyfer camau diwygio, sy’n cynnwys diwygio Deddf Twyll 2006 i gyflwyno rhwymedigaeth i roi gwybod am dwyll ar gyfer y sector a reoleiddir, gan fabwysiadu’r un model â gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth.

Maen nhw'n dweud y dylai sefydliadau addysg uwch hefyd ddod yn rhan o'r sector a reoleiddir at ddibenion deddfwriaeth gwrth-wyngalchu arian a thwyll gwrthderfysgaeth. Yn ôl nhw, byddai hyn yn gosod dyletswydd benodol ar sefydliadau addysg uwch i gyflwyno cais am fynediad at ddata gan destun y data hynny (SAR), gan ddarparu gwybodaeth ariannol werthfawr i gychwyn ymchwiliadau i achosion o ariannu terfysgaeth, neu gynorthwyo â nhw.

Mae’r papur hefyd yn nodi cyfres o argymhellion i ddiwygio Deddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005, sy’n cynnwys “ei gwneud yn ofynnol” i CThEM ddatgelu yn hytrach na “chaniatáu” datgeliad lle mae gweithwyr CThEM yn amau ​​bod ganddyn nhw wybodaeth sy’n datgelu achos o wyngalchu arian neu derfysgaeth.

Ychwanegodd yr Athro Ryder: “Mae yna nifer o wendidau yn rhan o strategaeth gwrth-dwyll y DU y mae angen mynd i’r afael â nhw.

“Rhaid dod â’r gyfraith ynghylch twyll yn unol â throseddau mwy difrifol eraill, fel bod ymchwilwyr troseddol yn cael y darlun cyfan ac yn gallu gweithredu ar yr wybodaeth honno cyn gynted â phosibl. Rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu ar ein hargymhellion.”

Mae ‘To exchange or not to exchange – that is the question. A critical analysis of the use of financial intelligence and the exchange of information in the United Kingdom’ wedi'i gyhoeddi yn y Journal of Business Law.

Rhoddodd yr Athro Ryder dystiolaeth i Ymchwiliad i Dwyll y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref.

Gwyliwch y sesiwn lawn yma: https://parliamentlive.tv/event/index/2b7c442e-edcd-4e45-8c7a-94891823c788

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalennau gwe yr Ysgol.