Ewch i’r prif gynnwys

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

Cyrsiau a gweithdai ar gyfer staff dysgu ac addysgu

Mae'r gweithdai hyn wedi'u fframio o amgylch themâu ac egwyddorion allweddol sydd wedi'u hymgorffori yn ein Pecyn Cymorth Datblygu Addysg, adnodd arlein sy’n rhoi arweiniad, offer ac enghreifftiau ar draws amryw o egwyddorion dysgu ac addysgu allweddol.

Maent yn ategu ein Rhaglen Cymrodoriaethau Addysg achrededig Advance HE, a'n adnoddau arlein ac asyncronaidd. Mae'r holl raglenni wedi eu mapio i Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU (UKPSF).

Cofrestru

Mae'r rhaglen lawn 2024/2025 a 2025/2026 ar gael ar y dudalen Cyrsiau a Gweithdai ar gyfer staff Dysgu ac Addysgu a gellir cadw lle trwy ddefnyddio Microsoft Forms. Caiff presenoldeb mewn gweithdai ei ddiweddaru ar y System Adnoddau Dynol fel ei fod yn weladwy gofnod hyfforddi staff.

Os oes gennych chi gwestiynau, neu awgrymiadau ar gyfer pynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw naill ai yn ystod y flwyddyn i ddod neu yn y dyfodol, cysylltwch â LTAcademy@caerdydd.ac.uk.