Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio hefo Hyrwyddwyr Myfyrwyr

Mae'r Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn grŵp o fyfyrwyr presennol sy'n gweithio gyda staff ar amrywiaeth o brosiectau er mwyn helpu i ddatblygu a llywio profiad myfyrwyr.

Mae'r Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn grŵp o 26 o fyfyrwyr cyfredol sy'n gweithio mewn partneriaeth â staff ar amrywiaeth o brosiectau, i helpu i ddatblygu a siapio profiad y myfyriwr. Mae ein Hyrwyddwyr yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn cydnabod bod yn rhaid i fyfyrwyr gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd prifysgol er mwyn gwella profiad myfyrwyr.

Yn rhan o’u rôl, mae'r Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn cydweithio â staff i greu a datblygu adnoddau prifysgol, yn cynnig syniadau fel myfyrwyr i helpu i lywio prosiectau, yn casglu ac yn dadansoddi data, yn gweithio ar strategaethau a thactegau cyfathrebu ac yn cyflawni unrhyw dasgau eraill sy’n gallu gwella profiad myfyrwyr.

Mae dod yn hyrwyddwr myfyrwyr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill profiad o weithio yn y Brifysgol, wrth gefnogi mentrau myfyrwyr, dysgu mwy am y profiad myfyrwyr, rhannu barn, cynrychioli cyd-fyfyrwyr, a gwella eu sgiliau personol a chyflogadwyedd.

Gwaith ein Hyrwyddwyr Myfyrwyr

Er mwyn gwir gwella profiad myfyrwyr, mae'n hanfodol bod myfyrwyr yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch y gwaith rydym yn ei wneud. Mae'r cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn cynnig cyfle i staff weithio'n uniongyrchol gyda grŵp o fyfyrwyr sy'n adlewyrchu’r  myfyrwyr sydd i’w cael ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae pob Ysgol, pob lefel astudio a demograffeg amrywiol yn cael eu cynrychioli. Mae'r myfyrwyr hyn yn cael hyfforddiant mewn casglu a dadansoddi data, cyfathrebu, creu fideos ac ymgysylltu â myfyrwyr.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ein Hyrwyddwyr Myfyrwyr wedi gweithio gyda staff mewn Ysgolion ac yn y Gwasanaethau Proffesiynol, a hynny ar fwy na 25 o brosiectau:

  • Cydweithio i greu a datblygu adnoddau ar gyfer prosiectau mewn amrywiaeth o feysydd o fewn Ysgolion a’r Gwasanaethau Proffesiynol
  • Cefnogi'r gwaith o gasglu data drwy greu a hwyluso arolygon i fyfyrwyr a grwpiau ffocws
  • Cynnig safbwynt personol a gwybodaeth am brofiadau yn y brifysgol er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau a datblygu adnoddau
  • Helpu i ddatblygu cwricwlwm a meddalwedd drwy dreialu mentrau newydd a gweithio gyda staff i adolygu a gweithredu argymhellion ar gyfer gwella
  • Gweithio gyda chydweithwyr ar strategaethau a thactegau cyfathrebu, gan gynnwys presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, a chreu fideos
  • Gweithio ochr yn ochr â staff a myfyrwyr, fel un o lysgenhadon y Brifysgol.

Sut mae'r cynllun yn gweithio

Mae’r cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn cynnwys 26 o fyfyrwyr sy'n gweithio ar dasgau a phrosiectau. Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr yr Academi Dysgu ac Addysgu sy'n rhedeg y cynllun ac yn berchen arno.

Prif nod y cynllun yw cynnwys yr Hyrwyddwyr yn ein gwaith, gofyn eu barn a gweithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr. Mae'r rôl yn un hyblyg, ac mae’r Hyrwyddwyr yn ei chyflawni ochr yn ochr â'u haddysg. Nid ydynt yn gweithio mwy na 17 awr y mis.

Mae'r Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr yn gweithio gyda staff i nodi’r ffordd orau o gynnwys Hyrwyddwyr yn eu gwaith, ac mae wrth law i roi arweiniad drwy gydol y prosiect.

Profiad staff o weithio gyda Hyrwyddwyr yn y gorffennol

Clywch gan ein Hyrwyddwyr

Student Champs Welsh (vimeo.com)