Ewch i’r prif gynnwys

Cynllunio Strategol a Llywodraethu

Mae Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol yn cefnogi tîm Cyngor a Rheolaeth Weithredol y Brifysgol drwy eu galluogi i gyflawni eu rhwymedigaethau llywodraethu corfforaethol, gan sicrhau ein bod yn cael cyngor cyfreithiol arbenigol.

Mae’r tîm Cydymffurfiaeth a Risg yn gyfrifol am gynghori'r Brifysgol am ei rhwymedigaethau cyfreithiol allanol a rheoleiddiol gan gynnwys rheoli camymddygiad ymchwil academaidd, parhad busnes, Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, hawlfraint, diogelu data, cydraddoldeb a chynhwysiant, rhyddid gwybodaeth, rhyddid barn, diogelwch gwybodaeth, digwyddiadau mawr, risg, yr iaith Gymraeg a datgelu camarfer.

Mae’r tîm Llywodraethu Corfforaethol, drwy Ysgrifennydd y Brifysgol, yn cynghori'r corff llywodraethol a'i is-bwyllgorau ar y defnydd priodol o'u pwerau, wrth sicrhau llywodraethiant corfforaethol effeithiol. Mae'r tîm hefyd yn cynghori ar gyflwyniad y gofynion rheoleiddiol mewnol ac allanol sy'n effeithio llywodraethiant corfforoaethol.

Mae'r Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol yn sicrhau bod y Brifysgol yn cael ei chyngor cyfreithiol gan ddarparwyr cymeradwy, mewn ffordd sy'n cydymffurfio â rheoliadau caffael.

Swyddi gwag

No vacancies currently available.