Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr

Nod yr Adran Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr yw cynyddu rhoi dyngarol, a chefnogaeth strategol, i’r Brifysgol.

Rydym yn datblygu ac yn hyrwyddo diwylliant lle mae cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr, staff, cyllidwyr a rhan-ddeiliaid eraill yn gwerthfawrogi effaith a phwysigrwydd y Brifysgol ac yn cael eu hysbrydoli i’w chefnogi.

Mae ein gwaith yn cwmpasu:

  • Datblygiad: rydym yn gweithio gyda phobl, ymddiriedolaethau, sefydliadau a chwmnïau yn genedlaethol ac yn fyd-eang, i godi arian ar gyfer ymchwil, cefnogi myfyrwyr, a phrosiectau cyfleusterau.
  • Partneriaethau strategol: rydym yn cydweithredu gyda sefydliadau allanol i gefnogi arloesedd, yn enwedig creu cynhyrchion, prosesau a pholisïau newydd ar y cyd.
  • Cysylltiadau cynfyfyrwyr: rydym yn parhau i gefnogi ein rhwydwaith cynfyfyrwyr sy’n datblygu’n barhaus, gan greu cyfleoedd i gynfyfyrwyr ymgysylltu gyda a chefnogi’r Brifysgol.

Rydym hefyd yn cynnal cronfa ddata cynfyfyrwyr y Brifysgol, gan sicrhau bod gwybodaeth sy’n cael ei chadw am ein graddedigion yn ddiogel ac yn gywir.

Swyddi gwag

No vacancies currently available.