Cyfleusterau microsgopeg a delweddu
Mae gan ein labordy microsgopeg chwe microsgop a chamerâu digidol, sydd wedi'u cysylltu â chyfrifiaduron, ar gyfer ffotograffiaeth a dadansoddi delweddau.
Petroleg

Ceir 2 ficrosgop petrolegol sy’n polareiddio golau a drosglwyddir/adlewyrchir ar gyfer astudio creigiau ar ffurf darnau safonol petrolegol hynod denau, darnau hynod denau sydd wedi’u llyfnhau a blociau wedi’u llyfnhau. Mae un yn Leica DM750P a'r llall yn Optiphot Nikon 2.
Microsgopeg golau a drosglwyddir/adlewyrchir
Mae genym ficrosgop Leica DMR a chanddo bolareiddwyr ar gyfer golau (llachar) a drosglwyddir/adlewyrchir, nomarski (DIC), a chanddo lensys o x1.25-x100 (ar gyfer trochi olew). Defnyddir y microsgop hwn ar gyfer edrych ar sleidiau microsgop safonol sydd wedi’u paratoi. Defnyddir slipiau gorchudd mewn golau sy’n cael ei drosglwyddo, a blociau caboledig mewn golau sy’n cael adlewyrchu. Mae DIC yn ddefnyddiol ar gyfer astudio microffosilau, yn enwedig palynomorffau, paill, diatomau a chocolithau.
Microsgopeg golau sy’n cael ei drosglwyddo
Mae gennym ficrosgop Leica DMLB sy'n addas ar gyfer edrych ar baratoadau sleidiau microsgop safonol gyda slipiau gorchudd, gydag ystod o lensys o x2.5-x100 (ar gyfer trochi olew). Mae i’r microsgop hwn yr opsiwn o ddefnyddio polareiddwyr, ac opteg Cyferbynnu Ymyriant Gwahaniaethol (DIC), sy'n ddefnyddiol ar gyfer astudio microffosilau, yn benodol - palynomorffau, paill, diatomau a chocolithau.
Stereomicrosgopeg

Mae gennym ddau stereoficrosgop; un Leica, MZ12.5 ac un â manyleb uwch, sef MZ16. Mae gan y ddau ystod o lensys chwyddo gwahanol. Mewn golau wedi'i adlewyrchu gellir dewsi rhwng ffynonellau golau ffibr optig deuol, neu olau cylch, y ddau â’r opsiwn o bolareiddwyr. Mae yna hefyd seiliau ac ynddynt olau a drosglwyddir, ynghyd â pholareiddwyr sy’n opsiynol a thiwb ar gyfer y sylladur.
Delweddu

Ar gyfer ffotograffiaeth, mae i’r chwe system gyfrifiadurol feddalwedd delweddu Leica LAS (Leica Application Suite). Ceir opsiwn mesur sy'n caniatáu i fesuriadau a thestun gal eu hychwanegu at ddelwedd, a hefyd meddalwedd aml-ffocws sy'n golygu y gellir tynnu pentwr o ddelweddau mewn gwahanol safleoedd o ran ffocws, sydd wedyn yn cael eu cyfuno i mewn i un ddelwedd ac iddi ffocws estynedig o ran dyfnder (yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer stereomicrosgopeg).

Manylion Cyswllt

Lindsey Axe
Senior Research Technician, School of Earth and Sciences
- axe@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4310