Digwyddiadau
Oherwydd Covid-19, mae digwyddiadau'r Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data wedi eu gohirio am gyfnod amhenodol.
Nid oes digwyddiadau ar y gweill.
Parhau i optimeiddio: O ddulliau pwynt mewnol i Ddata Mawr
Yr Athro Jacek Gondzio, Prifysgol Caeredin
Dydd Mercher 1 Tachwedd, 12.10 yn M/0.34 (Adeilad Mathemateg)
Yn ei ddarlith, bydd Athro Jacek Gondzio yn trafod y tebygolrwydd rhwng dau ddull sy'n seiliedig ar homotopeg:
- dull pwynt mewnol cysefin-deuol (anfanwl) ar gyfer LP/QP, a
- dull graddiant cyfieuol Newton a gyflyrwyd ymlaen llaw ar gyfer optimeiddio data mawr.
Mae'r ddau ddull yn dibynnu ar wneud defnydd clyfar o grymedd ffwythiannau sydd wedi eu hoptimeiddio ac yn cynnig technegau effeithiol ar gyfer datrys problemau optimeiddio sy'n fwy nag erioed o'r blaen. Byddwn yn mynd i'r afael ag agweddau damcaniaethol ac ymarferol defnyddio'r dulliau hyn i ddatrys amryw broblemau gwrthdro sy'n codi ym maes prosesu signalau.
Gwnaed rhan o'r gwaith hwn ar y cyd gyda chynfyfyriwr PhD, Kimonas Fountoulakis.