Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy Bremen-Caerdydd ar Dopoleg Gyfuniadol, Geometreg Arwahanol a’u Defnydd mewn Gwyddorau Data

Calendar Dydd Llun 1 Mehefin 2020, 09:00-Dydd Mawrth 2 Mehefin 2020, 18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

parallel lines and abstract shapes to depict mathematical data science

Mae Gwyddorau Data ymhlith y meysydd sy’n tyfu gyflymaf mewn Mathemateg gyfoes. Oherwydd ei chwmpas eang, mae’r twf hwn o ganlyniad yn bennaf i’r modd y mae’n cysylltu ac yn rhyngweithio gyda phynciau ymchwil mwy damcaniaethol fel cyfuniadeg, topoleg. geometreg. algebra a mathemateg arwahanol. Bydd y gweithdy hwn yn dod ag ymchwilwyr ynghyd o feysydd topoleg gyfuniadol ac algebraidd er mwyn edrych ar sut gellir datblygu ymchwil ar y cyd ym maes gwyddorau data. Mae rhaglen y gweithdy yn canolbwyntio ar gymryd y camau cyntaf tuag at feithrin partneriaeth hirdymor ac sy’n fuddiol i bawb rhwng y Sefydliad Algebra, Geometreg, Topoleg a’u Defnydd yn Sefydliad Bremen, yr Ysgol Mathemateg a’r Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data ym Mhrifysgol Caerdydd.