Ymchwil a Pherfformiad Dylunio gan ddefnyddio Topologic
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Cynhelir y gweithdy hwn ar y cyd â Dr. Spyros Stravovardis, Prifysgol Lerpwl. Bydd y dosbarth yn cyflwyno Topologic (https://topologic.app), pecyn meddalwedd rhad ac am ddim newydd sy’n gweithio gyda Dynamo a Grasshopper. Mae Topologic yn cynnig y posibilrwydd o feddwl yn ofodol, topolegol a chysyniadol am brosiect dylunio. Mae Topologic hefyd yn cyd-fynd yn agos ag EnergyPlus er mwyn dadansoddi ynni. Bydd y gweithdy yn cyflwyno’r cysyniadau perthnasol, yn dangos nodweddion pwerus y feddalwedd drwy enghreifftiau o lif gwaith, ac yn cynnig profiad ymarferol i’r rhai sy’n cymryd rhan i arbrofi gyda llif gwaith wedi’i deilwra.
Yn ystod sesiwn y bore, byddwch yn cyflwyno Topologic ac yn gweithio’ch ffordd drwy ddau neu dri thiwtorial strwythuredig. Yn y prynhawn, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i ddefnyddio Topologic i ddatrys problem ddiddorol neu greu llif gwaith wedi’i theilwra.
Ni fydd arlwyo yn rhan o’r gweithdy, felly dewch â photel dŵr/diod/byrbryd eich hun os ydych yn dymuno a gadael yr adeilad i gael cinio. Dim ond 15 o bobl a fydd yn cael cymryd rhan yn y gweithdy o ganlyniad i faint a chyfluniad yr ystafell.
Gofynion:
- Cyfrifiadur Windows 10 sy’n gweithio
- Dynamo 2.0 neu fersiwn ddiweddarach
- Topologic ar gyfer Dynamo 0.8.5 neu fersiwn ddiweddarach (ewch i http://topologic.app i'w lawrlwytho a'i osod)
Wrth i chi gyrraedd yr adeilad, rhowch wybod i’r staff diogelwch eich bod chi’n mynd i’r digwyddiad hwn (soniwch am Dr. Stravovardis) a llofnodwch y daflen i’ch gadael i mewn. Ewch yn y lifft i’r 3ydd llawr. Wrth i chi ddod allan o’r lifft a mynd trwy ddrysau’r llawr, trowch i’r dde a mynd i ddiwedd y coridor. Ewch drwy’r drws olaf ar y dde a cherdded cwpwl o fetrau a byddwch wedi cyrraedd Ystafell Seminar 13.
University of Liverpool
33 Finsbury Square
London
EC2A 1AG