Gweithdy meddygaeth ar systemau
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Data-driven systems medicine](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0016/1461013/Data-driven-systems-medicine-2019-3-19-9-41-25.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae DELL EMC a’u Partneriaid wrth eu bodd yn croesawu gweithdy meddygaeth ar systemau sy’n cael eu gyrru gan Ddata yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) ar 11-12 Mehefin, 2019, Heol Maindy, CF24 4HQ Caerdydd. I gofrestru ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/data-driven-systems-medicine-tickets-58021562054?utm_term=eventurl_text
Nod y gweithdy hwn, am ddiwrnod a hanner, yw crynhoi grŵp amlddisgyblaeth o arbenigwyr o’r byd academaidd a TG/y Diwydiant Fferyllol sy’n cydnabod cymhwysedd dysgu peirianyddol a dulliau cyfrifiadurol mewn meddygaeth systemau, fel cam cyntaf ar y llwybr at feddygaeth wedi’i phersonoli. Byddan nhw’n trafod sut gall modelu systemau a deallusrwydd artiffisial gael eu cymhwyso i faterion sy’n ymwneud â meddygaeth a gofal iechyd, gan ddefnyddio arfer gorau i fanylu ar y synergeddau a’r rhyngwyneb rhwng y gwahanol gymunedau gwyddonol a’r diwydiant TG.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal o 12pm-5pm ar 11 Mehefin tan 8.45am-4pm ar 12 Mehefin, a bydd 14 o siaradwyr gwadd yn cael eu lletya. Mae’r gweithdy wedi’i fwriadu ar gyfer myfyrwyr PhD uwch, myfyrwyr ôl-ddoethuriaeth, academyddion a chynrychiolwyr diwydiant sydd â diddordeb/cefndir ym maes data/gwyddor iechyd a meddygaeth systemau. Mae hyd at 15 o fyrddau poster ar gael hefyd.
Cysylltwch â szomolayb@cardiff.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau.
Siaradwyr a gadarnhawyd:
Dr. Rob Orford - Prif Ymgynghorydd Gwyddonol ar Iechyd i Lywodraeth Cymru: Cymru Iachach - oes newydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol?
Dr. Lindsay Edwards - Pennaeth AI/ML ar gyfer y Deyrnas Unedig ac Ewrop, GlaxoSmithKline R&D: Deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol a darganfod cyffuriau
Dr. Phil Webb - Cyfarwyddwr Cysylltiol Cynllunio, Perfformiad ac Arloesedd yn Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre: Celfyddyd a Gwyddor Sgwrsio ym myd Gofal Iechyd Modern
Yr Athro Irena Spasic - Athro yn Adran Gyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd: Cloddio yn nhestun naratifau gofal iechyd er mwyn dethol carfannau mewn treialon clinigol
Yr Athro Mark Coles - Athro yn Sefydliad Rhiwmatoleg Kennedy, Prifysgol Rhydychen: Modelu mecanistaidd sy’n cael ei yrru gan ddata ar gyfer targedu canser ac afiechyd llidol cyfryngedd imiwn
Dr. Christopher Yau - Darllenydd yn y Sefydliad Canser a Gwyddorau Genomig ym Mhrifysgol Birmingham a Sefydliad Turing: Dysgu peiriant ar gyfer penderfynyddion molecwlaidd clefydau dynol
Yr Athro Benedict Seddon - Athro yn y Sefydliad Imiwnedd a Thrawsblannu yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain: Ffynonellau a chymysgeddau - ryseitiau ar gyfer cof imiwnolegol
Dr. Venkantesh Pilla Reddy - gwyddonydd PKPD M&S a Ffarmacometrydd yn Uned Oncoleg Biotech IMED AstraZeneca: Modelu PK/PD ar gyfer targedu tiwmorau yn yr ymennydd: pwysigrwydd delweddu PET
Yr Athro Donald Fraser - Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Arennau Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: Dulliau gweithredu systemau ym maes ymchwil yr arennau
Dr. Sascha Ott - Darllenydd yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Warwick: Dilyniannu RNA celloedd unigol mewn meddygaeth atgenhedlol
Dr. Manasi Nandi - Uwch-ddarlithydd yn y Sefydliad Gwyddor Fferyllol yng Ngholeg y Brenin, Llundain: Adlunio atynwyr er mwyn canfod sepsis yn gynharach: mathemateg a meddygaeth yn dod at ei gilydd
Dr. Ceire Costelloe - Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Gofal Sylfaenol a Iechyd Cyhoeddus, Coleg Imperial Llundain a’r Uned Iechyd Digidol Byd-eang: Defnyddio data byd go iawn i sbarduno meddygaeth fanwl gywir ar draws economi gofal iechyd y Deyrnas Unedig
Mr. Simon Elwood-Thompson - Prif Swyddog Technoleg cronfa ddata SAIL ac ADRC Wales: Llwyfan e-Ymchwil Diogel y Deyrnas Unedig (UKSeRP) - mae pob data yr un fath ond yn wahanol
Mr. Richard Rawcliffe - Is-Lywydd a Rheolwr Cyffredinol, Dell EMC Sector Cyhoeddus y Deyrnas Unedig: Dell EMC Technologies, Datrysiadau ar gyfer Gofal Iechyd a Gwyddorau Bywyd
Yr Athro Martyn Guest - Cyfarwyddwr Technegol Uwchgyfrifiadura Cymru: Cyflwyno Seilwaith a Chefnogaeth ar gyfer Cyfrifiadura Ymchwil
Cardiff University Brain Research Imaging Centre
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ