Ewch i’r prif gynnwys

Cydweithio gyda ni

Roedd y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data ar agor rhwng 2015 a 2021. Mae'r dudalen hon yn dangos gwaith y sefydliad yn y gorffennol. Nid yw'n cael ei monitro na'i diweddaru.

Nid yw'n cael ei monitro na'i diweddaru.Gall ein peirianwyr meddalwedd ymchwil (RSEs) gyfrannu at eich ymchwil neu ei gwella mewn sawl ffordd.

Wrth i amser fynd yn ei flaen, mae peirianwyr RSE yn troi’n fwyfwy canolog i ragoriaeth ymchwil. Mae’r Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data wedi dechrau datblygu diwylliant ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n defnyddio arbenigedd peirianwyr RSE i gynnal a chefnogi ymchwil arloesol.

Bydd peiriannydd meddalwedd ymchwil yn eich galluogi i fynd ati i wneud prosiect ymchwil yn y ffordd fwyaf creadigol a thrwyadl fydd yn cynhyrchu canlyniadau cadarn y gellir eu cyflwyno’n hawdd.

Mae peirianwyr RSE yn cynhyrchu meddalwedd ac apiau o safon sy'n effeithlon ac yn ddyfynadwy. Maent yn cefnogi ymchwil ym mhob disgyblaeth.

Manteision defnyddio peiriannydd meddalwedd ymchwil

  • Mae peirianwyr RSE yn arbenigo mewn datblygu meddalwedd a chyfrifiadura perfformiad uchel gyda dirnadaeth o feysydd ymchwil penodol sy’n cwmpasu’r brifysgol gyfan.
  • Mae meintiau bach a mawr o ddata yn cael eu cofnodi a’u prosesu’n lân, yn ddiogel ac yn broffesiynol.
  • Drwy gydweithio â pheiriannydd RSE, caiff cwmpas a photensial eich ymchwil eu hystyried a’u hailddiffinio er mwyn optimeiddio ei safon a’i statws.
  • Caiff ymchwil ei rhannu’n hawdd â phobl eraill a gellir ailddefnyddio'r feddalwedd ar gyfer prosiectau ychwanegol.
  • Gall meddalwedd a ysgrifennwyd ar gyfer eich ymchwil gyfrannu at y sgôr REF oherwydd bydd eich ymchwil yn cael mwy o effaith ac yn cael ei hailddefnyddio'n fwy.
  • Yn fwyfwy, mae cynghorau ymchwil yn gofyn i feddalwedd ymchwil fod yn agored ac yn ddyfynadwy. Dysgwch fwy am sut mae meddalwedd yn cyd-fynd â pholisi data EPSRC

Cydweithio â pheiriannydd meddalwedd ymchwil

Efallai bod eisoes gennych gôd y gall ein peirianwyr ei gyflymu neu ei wneud yn fwy diogel. Efallai bod gennych brosiect sy’n dibynnu ar gofnodi data cymhleth, neu brosesu data a’i ddadansoddi.