Ewch i’r prif gynnwys

Profion Tsieinëeg

Mae Hanyu Shuiping Kaoshi (HSK) a’r Prawf Tsieinëeg i Bobl Ifanc (YCT) yn arholiadau safonol rhyngwladol sy'n asesu galluoedd pobl nad ydynt yn siaradwyr Tsieinëeg brodorol i ddefnyddio Tsieinëeg Mandarin yn eu bywydau dyddiol, academaidd a phroffesiynol.

Mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn ganolfan brofi gymeradwy ar gyfer HSK a’r YCT.

Hanyu Shuiping Kaoshi (HSK)

Yr HSK yw’r prawf hyfedredd Tsieinëeg swyddogol a gaiff ei gydnabod gan bob sefydliad a phrifysgol Tsieineaidd. Argymhellir y prawf ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio Tsieinëeg yn y brifysgol, ynghyd ag unrhyw un sy’n ceisio cymhwyster cydnabyddedig mewn Tsieinëeg Mandarin.

Mae'r HSK yn cynnwys chwe lefel, o HSK 1 (dechreuwr) i HSK 6 (uwch).

Writing TestVocabularySpeaking Test
HSK (Lefel VI)Dros 5,000HSKK (Lefel Uwch)
HSK (Lefel V)2500HSKK (Lefel Uwch)
HSK (Lefel IV)1200HSKK (Lefel Canolradd)
HSK (Lefel III)600HSKK (Lefel Canolradd)
HSK (Lefel II)300HSKK (Lefel Dysgwr)
HSK (Lefel I)150HSKK (Lefel Dysgwr)

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru, dyddiadau'r profion, a ffioedd, ewch i'n tudalen Cymwysterau Iaith Rhyngwladol ar dudalen yr Ysgol Ieithoedd Modern. I gael gwybodaeth gyffredinol ewch i'r wefan Profion Tsieinëeg.

Os oes gennych ymholiad mwy penodol, cysylltwch â ni.

Y Prawf Tsieinëeg i Bobl Ifanc (YCT)

Mae'r YCT wedi'i ddylunio'n benodol i asesu gallu myfyrwyr tramor i ddefnyddio Tsieinëeg o ddydd i ddydd ac yn eu bywydau academaidd. Mae'n cynnwys prawf ysgrifenedig a phrawf llafar, sydd ar wahân i'w gilydd. Mae'r prawf ysgrifennu wedi'i rannu'n bedair lefel, ac mae gan y prawf llafar ddwy lefel.

Os oes grŵp o fwy na 10 o ymgeiswyr yn sefyll arholiad, mae modd i ni hwyluso YCT yn eich ysgol, neu fel arall mae modd i ni groesawu grwpiau bach o ddisgyblion i wneud yr YCT ar y campws.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru, dyddiadau'r profion, a chostau.

Sefydliad Confucius Caerdydd

Ymholiadau cyffredinol