Ewch i’r prif gynnwys

Diwylliant Tsieina

Gyda thwf cyflym mewn diddordeb yn niwylliant Tsieina, rydym yn falch o gynnig cyfle i’n cymuned leol ddysgu am Tsieina a’i diwylliant amrywiol.

Mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn gwasanaethu Prifysgol Caerdydd, y ddinas, a’r rhanbarth ehangach fel hwb diwylliannol Tsieineaidd. Fel arfer, rydym yn trefnu digwyddiadau cyhoeddus ar raddfa fawr o gwmpas gwyliau diwylliannol, fel y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a Gŵyl Canol Hydref. Yn ystod y tymor, rydym yn trefnu cyfres o sgyrsiau cyhoeddus ar Tsieina, ar bynciau o bensaernïaeth hynafol Tsieineaidd i fywyd cymdeithasol modern yn Tsieina, mae manylion amdanynt i'w gweld isod. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid cymunedol i gynnig cyrsiau a gweithdai diwylliannol drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r rhan fwyaf o’n digwyddiadau am ddim, ac mae croeso i bawb. Edrychwch ar ein tudalen Digwyddiadau i weld manylion ein holl ddigwyddiadau a gweithgareddau rhyngddiwylliannol, neu cofrestrwch i gael ein cylchlythyr digwyddiadau chwarterol i weld gwybodaeth am sut i gymryd rhan.

Mae modd trefnu dosbarthiadau, arddangosiadau, a gweithdai preifat drwy’r Sefydliad. Cysylltwch â ni gyda manylion eich gofynion.

Cornel Tsieineaidd: Ar-lein Cyfres Ddarlithoedd 2021/22

Ymunwch â ni wrth i ni edrych ar agweddau pwysig ar ddiwylliant Tsieina. All lectures are in English and introduce theme-related Chinese vocabulary. Cyflwynir yr holl ddarlithoedd yn Saesneg. Maent yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cyflwyno ar-lein. I gofrestru ar gyfer, dilynwch ni ar Eventbrite neu ymunwch â'n rhestr bostio i gael diweddariadau chwarterol ar gyfer ein digwyddiadau.

DateTimeTitle of lecture
20 Hydref 202118:30-20:00Bywyd Cymdeithasol Heddiw yn Tsieina
17 Tachwedd 202118:30-20:00Pensaernïaeth Draddodiadol
26 Ionawr 202218:30-20:00Gŵyl y Gwanwyn
23 Chwefror 202218:30-20:00Bwyd Tsieineaidd
24 Mawrth 202218:30-20:00Addysg yn Tsieina Heddiw
4 Mai 202218:30-20:00Daearyddiaeth a theithio yn Tsieina

Sefydliad Confucius Caerdydd

Ymholiadau cyffredinol